|
Roedd Dan yn frawd i Bendigeidfran a Branwen, ac yn hanner brawd i Efnisien. Yn dilyn priodas Branwen â brenin Iwerddon, Matholwch, achosodd Efnisien ddinistr rhwng y ddwy wlad am flynyddoedd.
Yn y frwydr waedlyd olaf yn Iwerddon collodd Dan ei ddau frawd a bu farw ei chwaer, Branwen, o dor calon. Dau o'r saith milwr a lwyddodd i adael Iwerddon yn fyw ar ôl y frwydr oedd Dan a Phryderi.
Ar ôl treulio saith mlynedd yn Ynys Gwales yn dilyn y frwydr, dychwelodd y ddau i gartref Pryderi ble roedd Rhiannon, ei fam, yn weddw erbyn hyn, yn disgwyl amdanynt. Syrthiodd Rhiannon a Dan mewn cariad, ac er gwaethaf ymdrechion Llwyd i wneud eu bywyd yn anodd, bu'r ddau'n hapus byth ar ôl hynny.
|