Alli di ddweud wrthym am gefndir y prosiect?
Mae'n bwnc amlwg i S4C i ymdrin ag ef a dwi'n meddwl 20 mlynedd yn ôl pan oedd Chris Grace yn dechrau ei bortfolio animeiddio yn S4C, mi fydde hi wedi bod yn ddigon hawdd dweud "mae gennym ni'r clasur gwych yma i'w roi ar y sgrîn". Ond, wrth gwrs, doedd dim strwythur animeiddio yng Nghymru ac os oeddech chi'n bwriadu gwneud y stori yma, dylid gwneud hynny gyda Chymry a chael gymaint o Gymry â phosibl i weithio arni. Felly, mae wedi bod yn broses hir, mae wedi bod yn daith hir o sefydlu (a) y diwydiant a (b) dangos ein cymwysterau'n rhyngwladol gan ddweud "rydym ni'n gwmni sy'n gallu cynhyrchu storiau difrifol nad oes neb arall yn eu gwneud". Mewn llawer o ffyrdd, mae Y Mabinogi wedi dod yn goron ar y broses honno.

All Y Mabinogi ddim bod y stori hawsaf i'w haddasu?
Na, nid y deunydd hawsaf yn y byd i'w addasu ac i fod yn onest mae hi'n syndod cyn lleied o bobl sy'n gyfarwydd â nhw yng Nghymru. Roeddem wedi'n synnu pan aethom i'r BBC (un o'r partneriaid) i'w Hadran Addysg lle cawsom ein hysbysu y byddai plentyn 10 mlwydd oed yn astudio ychydig o'r stori ac yn actio darnau o'r stori, o bosibl, ond ddim yn ei hastudio fel rhan o Lefel A yn gyffredinol. Felly roedd yn rhaid i ni (a) adrodd y stori ar gyfer cynulleidfa heddiw a (b) ei gwneud yn ddiddorol. Mae'r storiau yn ddiddorol ond roedd eu plethu'n her. Doedd hi ddim yn hawdd oherwydd dydi'r storiau ddim wedi eu cysylltu o reidrwydd. Pan ddarllenwch chi'r storiau, mae llawer ohonynt yn llawn gwagleoedd o ran nartif, a phan fyddai'r storiau'n cael eu hadrodd ar lafar, roedd hi'n ddigon hawdd i'r adroddwr guddio'r gwagleoedd hyn ond ar y sgrîn byddai'n hollol wahanol...roedd y stori mor foel. Felly rhaid oedd inni ddarganfod ffordd i uno'r holl storiau gan barhau i feddwl am y storiau fel rhai digon 'gwahanol' ac felly roedd yn rhaid inni geisio cadw naws y storiau. Defnyddiom y gyffelybiaeth pan roeddem yn ceisio perswadio pobl y byddai'r math yma o ymdriniaeth yn gweithio â rhywbeth fel 'Pulp Fiction' sydd hefyd yn ymddangos fel petai'n ceisio adrodd dwy neu dri stori ar yr un pryd. Mae'n symud o ran amser, nid yw'n ddilynol o ran amser, ac mae un cymeriad yn marw mewn un golygfa ac yn ymddangos yn fyw yn ddiweddarach. Nid ydych yn cael unrhyw drafferth yn gwylio'r ffilm, rydych yn sownd yn eich sedd tra'n ei gwylio ac yn y sgript ffilm mae'n dweud: 'Pulp Fiction - 3 stori ynglyn ag 1 stori'. Ein brwydr ni oedd dod o hyd i stori oedd am uno'r cyfan. Mae gennym ni'r amrywiol arwyr o gymeriadau ac roedd yn rhaid i ni eu cymryd gyda'i gilydd o ddechrau y ffilm hyd at ddiwedd y ffilm. Maent wedi bod ar wahanol drywyddau yn eu bywyd ond maent mewn ffordd yn gymeriadau unedig ar ddechrau'r daith ac yn grwp unedig gwahanol ar ddiwedd y ffilm. Maent i gyd yn newid mewn gwahanol ffyrdd ond mae'n rhaid iddynt newid am fod y gynulleidfa eisiau bod yn rhan o'r daith, fel petai, a chael y profiad eu hunain. Fellly, dyna sut y dyfeision ni'r dechreuad a'r diwedd byw yma er mwyn uno'r cymeriadau fel ein bod yn gwybod pa storiau roeddem yn ceisio eu dilyn.

Pa broblemau ddaethoch chi ar eu traws tra'n addasu'r gweithiau gwreiddiol?
Os ydych yn addasu unrhyw beth, rydych yn ei newid ef - mae hynny'n anochel. Un o'r pethau roeddem wedi gweithio arno yn flaenorol - weithiau rydym yn ysgrifennu a weithiau rydym yn gweithio fel golygyddion sgript - oedd golygu sgript dwy ffilm yn seiliedig ar Chwedlau Caergaint Chaucer. Yr hyn oedd yn gyffrous i ni gyda'r Mabinogi oedd pa mor fodern oedd y problemau mewn gwirionedd, a rhoddodd hyn lawer iawn mwy o sgôp i ni. Un o'r problemau wnaethon ni eu darganfod, er enghraifft, oedd Manawydan yn gorfod datrys y broblem yma gyda Llwyd, ac mae'n rhaid iddo fod yn gyfrwys i'w dwyllo. Mae'n ei wneud ar ei ben ei hun yn y stori ond nid oedd hyn yn creu digon o densiwn yn y ffilm, felly dyma gyflwyno Cigfa i'r stori (nith Manawydan) fel ei bod yn gallu bod yn rhyw fath o seinfwrdd. Un o'r pethau â'n cynhaliwyd ar y cychwyn oedd fod un o'n cynghorwyr, Sioned Davies, wedi dweud "peidiwch â phoeni'n ormodol am newid y stori oherwydd roeddent yn adrodd y storiau hyn flynyddoedd maith yn ôl a dyna beth oedd yr adroddwyr yn ei wneud mewn gwirionedd - eu haddasu drwy'r amser, eu newid a'u newid a'r cwbl yr ydych yn ei wneud gyda'r ffilm yn 2002 yw dweud y storiau ar gyfer cynulleidfa 2002".

Ond eto, rydych wedi cadw'n dryw i brif ffrwd y storiau
Dwi'n gobeithio ein bod wedi cadw'n dryw. Maent yn storiau diddorol i'w darllen ac yn ddiddorol gweld pa mor hen ydynt ac maent yn haeddu cynulleidfa llawer iawn mwy eang. Felly mae unrhyw gyfle i gyfleu'r storiau yn gyfle gwerthfawr. Felly, dwi'n gobeithio fod y ffordd rydym wedi mynd ati yn gywir...dim ond y gwylwyr all fesur hyn i ni.