Roedd Matholwch yn frenin ar Iwerddon yn yr un cyfnod ag yr oedd Bendigeidfran yn frenin ar Ynys Prydain. Daeth draw i Brydain i ofyn am law Branwen mewn priodas, i greu cytundeb fyddai'n arwain at heddwch rhwng y ddwy wlad.

Priododd y ddau ond o ganlyniad i weithredoedd byrbwyll Efnisien, ni chafwyd heddwch rhyngddynt. Bu'n rhaid i Branwen ddioddef bonclust cogydd pob dydd a chael ei thrin fel morwyn yn hytrach na'r frenhines yr oedd, er mwyn gwneud iawn am y gwarth a godwyd ar Iwerddon. Clywodd Bendigeidfran am hyn ar ôl i Branwen anfon neges ato gyda drudwy, a daeth ef a'i fintai dros y môr i'w hachub.

Bu brwydr waedlyd rhwng y ddwy wlad, ac fe laddwyd yr holl filwyr ac eithrio saith, oedd yn cynnwys Dan a Phryderi. Bu farw Branwen ar lan afon Alaw o dor-calon o weld y dinistr a achoswyd i'r ddwy wlad.