Alli di ddweud wrthym am y cymeriad rwyt yn ei chwarae?
Dwi'n chwarae rhan Lleu sy'n ryfelwr trwblus, ifanc sy'n goroesi tair melltith a roddwyd arno gan ei fam, ac fe ddilynwn ei hanes yn goroesi'r dair felltith yn y ffilm.
Alli di ddweud wrthym yn fras beth sy'n digwydd i'r cymeriad yn y stori?
Mae Lleu wedi ei eni drwy hudolaeth - oedd yn rywbeth oedd yn mynd law-yn-llaw â bywyd bod dydd yn y dyddiau hynny - a'r tair melltith a roddir arno gan ei fam yw (i) mai dim ond mamau all enwi eu meibion, (ii) mai dim ond mamau all roi arfau i'w meibion ac (iii) na fyddai'n bosib iddo briodi merch feidrol.
Beth yw canolbwynt y stori o bersbectif Lleu?
Yr hyn sydd fwyaf pwysig ym mywyd Lleu yw fod cariad yn cael ei gyflwyno iddo o ddewis yn hytrach nag fel rhan o unrhyw ddyletswydd. Fe'i megir gan ei ewyrth Gwydion sy'n cynnig cariad diamod iddo a dwi'n credu mai rhan o galedi bywyd Lleu yw'r ffaith na all adnabod y cariad...mae bob amser yn edrych at ei fam am gariad tra bo'r cariad mewn gwirionedd yn bodoli'n barod gan ei ewyrth Gwydion. Byddwn yn dweud mai adnabod y cariad gan ei ewythr yn hytrach na chwilio am gariad mam y mae'n dyheu amdano yw'r hyn sydd fwya' canolog yn ei fywyd.
Mae yna gymeriad benywaidd yn ymddangos. Alli di ddweud wrthym am hynny?
Un o'r tair melltith sy'n cael eu rhoi arno gan ei fam yw na all briodi merch feidrol. Felly, mae ei ewyrth Gwydion yn creu merch berffaith iddo o flodau sef Blodeuwedd. Os ewn ni yn ôl i drafod dewisiadau ym mywyd Lleu, mae'r cariad y mae yn dyheu amdano yn bellgyrhaeddol ond mae'r cariad sy'n cael ei roi iddo (Blodeuwedd) yn gariad diamod...dwi'n credu roedd Lleu eisiau dewis ei wraig ei hun ac mae'n ei chael hi'n anodd i garu merch â greuwyd ar ei gyfer. Mae'r ffaith ei bod hi'n berffaith yn anodd iddo dderbyn hefyd - fe gyflwynir y briodferch berffaith hon iddo ond yn y pen draw nid dyma fyddai ef wedi ei ddewis. Mae hyn yn egluro, mae'n debyg, pam fod Blodeuwedd yn ffeindio cariad gyda dyn arall gan nad yw hi'n derbyn unrhyw gariad gan Lleu.
Pa fath o sialens yw hyn i actor sydd wedi arfer â gwaith theatr?
Dwi'n credu fod yna amrywiol lefelau i'r sialens. Yn sicr, dyma'r prosiect cyntaf dwi wedi gweithio arno sydd â golygfeydd byw ac animeiddiad o'r safon hwn. Mae'r broses yn un hynod ddidorol ac anodd. Roeddwn yn ei ffeindio hi'n anodd ar adegau oherwydd fel actor rydych mor ddibynnol ar yr hyn y gallwch ei gymeriadu â'ch wyneb a'ch dwylo ac fe saethom ni'r darnau byw yn gyntaf felly roeddwn wedi ymgyfarwyddo â hyn ac wedyn buan y bu rhaid defnyddio llais yn unig i greu'r cymeriad sy'n eitha' anodd. Yr hyn wnes i'n reddfol ar y dechrau, pan roeddwn yn mynd drosto ar fy mhen fy hun, oedd i greu llais a cheisio cymeriadu Lleu ond fe sylweddolais y byddai'n rhaid i mi geisio gwneud y cymeriad mor real â phosib yn hytrach na chyflwyno cymeriad â llais yn unig.
Mae storiau Y Mabinogi yn gyfarwydd i ni yma yng Nghymru ond fe ddylent drafeilio'r byd. Beth yw dy obeithion di ar gyfer y ffilm?
Yn amlwg, fe dyfon ni fyny â storiau Y Mabinogi ac rydym yn gwerthfawrogi ac yn sylweddoli pa mor bwysig ydynt i Gymru oherwydd pa mor hen ydynt a chymaint o genedlaethau sydd wedi eu clywed. Mae'r storiau yma wedi eu pasio ymlaen mewn modd draddodiadol Gymreig sef y traddodiad llafar, felly dwi wir yn gobeithio y gallwn eu trosglwyddo i gynulleidfa estynedig er mwyn profi i'r byd pa mor gyfoethog a ffantastig yw'r casgliad hwn o storiau.
|