|
Sut ddaeth y prosiect hwn i fodolaeth?
Roedd ffilm Y Mabinogi yn rywbeth yr oeddwn wedi bod am ei gwneud ers amser hir. Dechreuais gynhyrchu animeiddiadau ym 1982 ac fel pob is-gynhyrchydd, roedd rhaid i mi ennill fy statws, roedd rhaid i mi gael ôl-gatalog, ac fe ddaeth amser addas i mi gyflwyno'r syniad. Roedd yn brosiect mawr ac mae'n debyg fod y gallu gennyf, roedd y gallu gan fy nghwmni, ac roedd y cyfarwyddwr iawn gennyf yn ogystal ag enw da Cartwn Cymru a fyddai'nn gallu gweithio ar brosiect o'r maint hwn a chymryd rhywbeth oedd yn gynhenid Gymraeg a chynnig ef i fyd nad oedd o bosib yn deall Cymreictod ond a allai dderbyn ei fod yn brosiect animeiddio safonol.
Alli di ddweud wrthym beth yw'r stori?
Mae crynhoi stori Y Mabinogi/Otherworld mewn ychydig frawddegau bron yn amhosib! Yr hyn sy'n ganolog yw ein bod yn ymdrin â pedair prif gainc o fewn Y Mabinogi, sy'n golygu'n gryno "chwedlau am _yr ifanc neu feibion", a'r hyn yr ydym wedi ei wneud yw tynnu tri phrif gymeriad o'r ceinciau hyn. Mae Rhiannon yn ferch ifanc, Lleu yn ddyn ifanc a Manawydan, neu Dan yn ei ffurf gryno, yn ddyn ifanc arall a'r hyn yr ydym yn ei weld yw cymeriadau cig a gwaed gyda'u problemau cyfoes, deunaw oed, ac fe gymrwn hwy i'r arallfyd lle maent yn dod yn gymeriadau wedi eu hanimeiddio. Maent yn tyfu ac yn datblygu fel cymeriadau drwy'r storiau hynafol yma ac mae eu hargyfyngau'n cael eu datrys yn y pen draw ac rydyn ni'n dod â nhw'n ôl i'r ffilm fyw i gloi'r ffilm.
Pa mor hawdd/anodd oedd hi i gyfuno golygfeydd gydag actorion o gig a gwaed ac animeiddio fel yna?
Mae cast o filoedd yn Y Mabinogi ac felly fe wnaed penderfyniad bwriadol i dynnu ein prif gymeriadau allan ac roeddem yn teimlo y byddai dechrau'r ffilm gyda golygfeydd byw yn fodd o ddal sylw'r gynulleidfa a thynnu eu sylw at y prif gymeriadau...rhain yw ein harwyr drwy'r stori. Ond mae technoleg yn bodoli nawr mewn animeiddio, wrth ôl-gynhyrchu, i gyfuno'r ddau'n llyfn ac mae'n rywbeth rydym wedi ei wneud o'r blaen. Yn Chwedlau Caergaint, fe gyfunwyd animeiddio pyped 3D ffrâm wrth ffrâm gydag animeiddiadau wedi eu darlunio. Felly mae'n eitha' hawdd mewn gwirionedd i gyfuno.
Alli di ddweud wrthym am ran John Cale yn y prosiect...sut y daeth i fod yn rhan o'r prosiect a beth yw ei swyddogaeth?
Fe ddewison ni John Cale (fi a'r cyfarwyddwyr, Derek Hayes), fel y cyfansoddwr oherwydd ein bod yn teimlo y byddai'n berffaith. Mae ganddo gefndir Cymreig, fe'i magwyd ar gyrion Abertawe ac yn ôl y sôn ni siaradodd air o Saesneg nes ei fod yn saith mlwydd oed. Felly, mae ganddo ddealltwriaeth o'r Mabinogi ers yn fachgen ifanc. Gadawodd ei fro mebyd ac mae yn awr yn Gymro alltud a dyna fydd e bellach - mae'n dewis byw yn Efrog Newydd - ond mae bob amser wedi cadw cysylltiad â Chymru ac mae wedi gweithio ar brosiectau Cymraeg pob gyfle a gaiff. Heblaw am ei gysylltiad â Chymru, roedd iddo enw gwych fel cerddor - gwyddom ei fod wedi dechrau fel cerddor clasurol, wedi hyfforddi mewn chwarae'r fiola, ac roedd wedi chwarae yng Ngherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru. Aeth yna i Brifysgol Goldsmith ac fe ddilynodd lwybr mwy avant-garde o ran cerddoriaeth. Yna yn Velvet Underground fe gyfunodd gerddoriaeth roc â cherddoriaeth glasurol avant-garde. Roedd hyn yn ateb ein gofynion yn berffaith gan fod Y Mabinogi yn rywbeth rhyfedd, arallfydol a dyna'n union y math o gerddoriaeth yr oeddem ei heisiau - ychydig o gerddoriaeth melodaidd, gwerin/Celtaidd, ychydig o gerddoriaeth avant-garde ac electronig - sain eclectig mewn gwirionedd a John oedd y dyn i wireddu hynny ar ein cyfer.
NESAF
|