|
Beth yw pwysigrwydd cerddoriaeth mewn animeiddio?
Man cychwynnol animeiddiad yw'r pethau gweledol gan weithio tuag at drac ddeialog bras er mwyn perffeithio'ch lip-synch animeiddedig. Ond rydych chi'n sôn am ddelweddau gweledol cwbl fud - rhywbeth anodd iawn i gynulleidfa ei ddirnad. Felly rhaid ichi gael cynllun sain, sy'n dod o du'r golygydd sain a'r trac cerddorol. Maen nhw'n amhrisiadwy mewn animeiddio. Mae cerddoriaeth, wrth gwrs, yn elfen dyngedfennol o unrhyw ffilm fawr, ond mewn ffilm gonfensiynol falle y bydde' cyn lleied â 20-30 munud o gerddoriaeth mewn ffilm 100 munud ond yn Y Mabinogi, mae 70-75 munud o gerddoriaeth, oherwydd yr anghenraid i 'gario'ch' cynulleidfa yn rhannau pwysig y ffilm.
Alli di ddweud wrthym am ran Cerddorfa Genedlaethol Cymru yn y ffilm?
Fe ddewison ni Gerddorfa Genedlaethol Cymru oherwydd ei bod yn gerddorfa symffoni ryngwladol enfawr ac adnabyddus ac mae ganddynt y sgôp a'r adnoddau i ddarparu'r sain a'r arbenigedd technegol yr oeddem eu hangen. Roeddent yn cerdded i mewn yn y bore ac yn darllen y sgôr o'u blaenau. Doedden nhw'n gyfarwydd ag ef o bwbl - nid yw Tchaikovsky neu Sibelius neu Mozart neu unrhyw beth yr oeddent wedi ei weld yn flaenorol fel eu bod nhw'n gallu chwarae drwyddo unwaith ac yna ei recordio'n syth. Felly, roedd hynny'n gofyn am ddawn gerddorol o safon uchel. Gan ddefnyddio'r gerddorfa enwog hon a'r cyfansoddwr Cymreig enwog ar y cynhyrchiad Cymraeg hwn - roedd popeth fel petai'n ffitio fel maneg.
Beth wyt ti'n meddwl fydd yr ymateb cyhoeddus?
Dwi'n sicr yn credu fod yna garfan allan yn sy'n mynd i werthfarwogi ffilm fel hon. Yr hyn sydd angen i ni ei ddeall yw nad yw'r ffilm yn ymdriniaeth arferol o'r math yma o ddeunydd. Adroddwyd y chwedlau hyn ar lafar yn y lle cyntaf mewn llysoedd a gwersylloedd ar nosweithiau tywyll gefn gaeaf ar fynyddoedd Cymru. Wedyn, fe'u hysgrifennwyd ganrifoedd yn ddiweddarach, yn ystod y 13eg ganrif o bosib, felly rydym yn dychwelyd i'r gwreiddiau, i'r gwreiddiau Celtaidd cynharach ac mae'n ddeunydd deifiol iawn. Nid yw ar gyfer plant bach, nid yw'n animeiddiad ciwt ond yn hytrach yn cyfleu hanes fel ag y mae. Mae yna ryfeloedd a thrais, sy'n darlunio cymdeithas bur gyntefig ar un olwg, ond eto'i gyd rydym yn cyplysu hyn â thechnegau animeiddio sy'n edrych yn dda, sain trac mawr, cerddoriaeth sydd o fewn cyrraedd pawb, cast o leisiau hyfryd - pobl megis Ioan Gruffudd a llu o actorion ifanc eraill adnabyddus. O'r herwydd dwi'n credu y bydd y cyhoedd yn ei mwynhau'n fawr.
Alli di ddweud wrthym am rai o'r actorion sy'n cymryd rhan yn y rhannau byw a'r rhannau lleisiol
Yn bersonol, roeddwn yn teimlo ei bod hi'n hynod bwysig i gastio actorion Cymreig oherwydd does dim dwi'n ei gasau'n fwy na chlywed acen Gymraeg ffug, felly roedd rhaid iddynt fod yn actorion Cymreig ifanc ac roeddem yn edrych am gymeriadau fyddai'n gymeriadau credadwy animeiddedig o'r 6ed ganrif. Felly, fe gastiwyd Mathew Rhys fel Lleu ac mae ganddo'r corff iawn i chwarae rhan y rhyfelwr ifanc. Yna, fe ddewisom Daniel Evans fel Manawydan (Dan), brawd y cawr Bendigeidfran. Fe yw'r brawd ifanc felly roedd rhaid i ni ddechrau'r ffilm gydag ef fel y brawd ieuengach yn cael ei warchod gan y cawr mawr, ac yna tyfu a datblygu yn ei gyflead lleisiol wrth i ni fynd yn ein blaenau. Dim ond Ioan Gruffudd wnaethon ni ystyried ar gyfer rhan y cawr (Bendigeidfran). Mae ganddo rhyw fath o urddas i'w lais sy'n addas ar gyfer cymeriadu cawr, ac rydym yn gwybod am ei rannau yn Hornblower a The Forsythe Saga. Yna, fe benderfynom ar Jenny Livesey fel Rhiannon, merch ifanc bengaled. Mae gennym gymeriadau eraill, mwy sefydliedig megis cymeriad Philip Madoc, sy'n enwog am The Last of the Mohicans...mae ganddo lais Cymraeg gwych ar gyfer chwarae rhan Gwydion. Yna, mae gennym ran Wyddelig sef rhan Brenin Matholwch ac fe ddewisom Paul McGann ar gyfer y rhan honno. Ymddangosodd Paul yn 'Withnail and I' ac fe lwyddod i greu llais Gwyddelig gwych gyda'i gefndir Gwyddelig.
Gyda'r ffilm yn cael ei chynhyrchu'n ddwyieithog, yn Gymraeg a Saesneg, alli di ddweud wrthom beth oedd rhaid ei gysidro wrth wneud hyn.
Mae pob un o'n ffilmiau ni'n cael eu gwneud yn Gymraeg a Saesneg ac mae hyn yn rhan o ofynion S4C. Rhaid i chi fod yn ymwybodol fod rhaid i'r lip-synch allu gweithio, nid yn unig yn Saesneg ac yn Gymraeg - ond yr hyn sy'n ganolog i greu animeiddiad yw y dylai fod ganddo'r gallu i'w addasu i nifer o ieithoedd.
BLAENOROL
|