Alli di ddweud wrthym sut y daeth y prosiect i ffrwyth?
Ers dechrau S4C, mae pobl wedi bod yn gofyn iddynt animeiddio'r Mabinogi, gan mai'r Mabinogi yw storiau enwocaf Cymru. A dwi'n credu fod Chris Grace, sydd wedi bod yn gwneud llawer o brosiectau animeiddio diwylliannol e.e Shakespeare, Opera, Y Beibl, wedi bod yn gweithio tuag at hwn, ond ei bod hi'n stori anodd i'w chyfleu, oherwydd fel y gwyddoch, mae Pedair Cainc iddi ac mae hi'n anodd cyfleu Pedair Cainc i un ffilm. Gallwn fod wedi gwneud pedair pennod hanner awr, neu pennod 1/4 awr i ysgolion. Fe feddylion ni am hynny, ond yn y diwedd fe benderfynon ni geisio eu gwneud nhw'n adloniadol yn hytrach nag yn addysgol.

Pa fath o broblemau wnes di ddod ar eu traws wrth weithio ar y prosiect hwn?
Mae Pedair Cainc i'r Mabinogi ac mae gwahanol arwyr a gelynion ym mhob cainc. Pan geisiwch grynhoi hyn i gyd i un ffilm, mae problem enfawr yn codi, felly fe benderfynom mai'r cam cyntaf fyddai ceisio pontio'r storiau. Roedd yn rhaid i ni ganolbwyntio ar stori Rhiannon oherwydd ei bod yn ymddangos yn y Gainc Gyntaf ac yna'n ymddangos yn y Drydedd Gainc, ac yna mae ei mab yn dod yn ffrindiau â'r arwyr yn yr Ail Gainc. Felly fe driom glymu'r Gainc Gyntaf, yr Ail a'r drydedd gyda'i gilydd. Ond yr hyn y bu i ni ddarganfod oedd nad oedd dim y gallwn ei wneud gyda'r Bedwaredd Gainc, sef stori Lleu, ac mae'n debyg mai'r stori hon yw'r fwya' gyffrous ond nid oedd yn ffitio i mewn o gwbl, felly roedd yn rhaid i ni feddwl am strwythur fyddai'n uno'r storiau ac yn gwneud iddynt ymddangos fel un stori. Dyna pryd y daeth y syniad o gael dechreuad a diweddglo byw gyda thri person ifanc yn mynd i mewn i'r byd yma ac yn trawsnewid i fod yn dri o arwyr tair o'r ceinciau.

Pa fanteision ac anfanteision wnaeth hynny gynnig i chi?
Roedd cael arwr o gig a gwaed yn ein galluogi i roi problemau modern iddynt. Cafodd Rhiannon gyfathrach rywiol heb ymarfer dulliau atal cenhedlu noson cyn iddi fynd i mewn i'r arallfyd, gyda'r posibilrwydd ohoni'n beichiogi. Mae hi'n credu y gall hi ymdopi â beichiogrwydd. Dim ond 18 oed yw hi ac nid yw tad y plentyn yn mynd i fod yn bresennol, ond mae hi'n credu y gall hi ymdopi. Yn ei stori hi, mae hi'n cael problemau beichiogi ac unwaith y mae hi'n beichiogi ac yn rhoi genedigaeth mae ei phlentyn yn cael ei gipio, fe'i cyhuddir o lofruddiaeth, fe'i cysylltir drachefn â'i phlentyn ac yna mae ei phlentyn yn gadael i ryfela. Yn gyffredinol yn ei stori yn Y Mabinogi, mae hi'n dysgu'r boen a'r mwynhad o fod yn fam ac yn sylweddoli nad yw beichiogrwydd yn rywbeth hawdd. Dyma'r union beth y ceisiom ei wneud â'r arwyr cig a gwaed h.y. rhoi problemau modern iddynt, eu datrys rywsut yn ystod Y Mabinogi fel eu bod yn dod allan o'r arallfyd ychydig yn ddoethach na phan aethant i mewn.

Mae Derek wedi disgrifio'r steil fel "Welsh Manga". A wnaeth hynny roi ar ddeall i ti y ffordd roeddet ti'n meddwl amdano?
Dwi'n gwybod fod Derek yn ei disgrifio fel y "Welsh Manga". Dwi'n credu mai oherwydd fod gymaint o ryw a thrais ynddo. Cawsom anhawster yn ei haddasu ar gyfer cynulleidfa ysgol ieuengach sef un o'r cynlluniau gwreiddiol, ac wrth i ni ddod i'r afael â'r deunydd fe sylweddolom y byddai'n rhaid iddo fod ar gyfer cynulleidfa 12+, hyd yn oed cynulleidfa yn eu hugeiniau cynnar.

Ai dyma oedd y gynulleidfa oedd gennych mewn golwg?
Dwi'n credu mai prif gynulleidfa y ffilm yw unrhyw un sydd â diddordeb mewn problemau pobl ifanc. Mae'n arwyr cig a gwaed i gyd yn 18 - maent yn dathlu deunawfed pen-blwydd Lleu pan maent yn mynd ar fordaith ar gwch oddi ar arfordir Sir Benfro. Ond mae Lleu yn darganfod ar fore ei ben-blwydd yn 18 oed ei fod wedi ei fabwysiadu, a nad yw ei rieni maeth wedi mentro dweud wrtho, a dwi'n credu fod hon yn broblem y gallai llawer o bobl ifanc uniaethu â hi.

Sut oeddet ti'n teimlo wrth i'r prosiect hwn ddatblygu?
Er mwyn ein hysbrydoli i ysgrifennu'r ffilm hon, fe aethom ar wibdaith o amgylch yr holl leoliadau. Rydym ni'n byw yn Nimbych y Pysgod, Sir Benfro, nid nepell o Narberth, lle roedd llys Arberth ac yno fe sylweddolon ni y gallen ni fod yn dyst ein hunain i'r olygfa welodd Pwyll wrth i Rhiannon farchogaeth ei cheffyl gerllaw. Fe deithiom i Ogledd Cymru i weld lle y bu Branwen, o bosib, farw ac fe dynasom luniau a'u rhoi i Derek. Fe aeth Derek yn ôl yno wedyn gyda chamerâu mwy safonol a defnyddiodd ffotograffau lluniau byw yn ei waith. Roedd hi'n hynod gyffrous i weld popeth yn datblygu. Dwi'n credu fy mod i a Martyn yn awyddus iawn i geisio defnyddio'r ffilm yma i hysbysebu Cymru oherwydd rydym yn ymwybodol mai Iwerddon a'r Alban sy'n cael eu hadnabod yn rhyngwladol. Mae'r gynulleidfa ryngwladol yn dueddol o feddwl mai Iwerddon a'r Alban sy'n hardd ond eto mae gan Gymru lawer iawn i'w gynnig ac mae cymaint o'r storiau wedi eu cysylltu â'r holl lefydd yn y stori - dyma beth â'n hysbrydolodd ni a dyma'r hyn y gwelwn Derek yn ei wireddu.