|
Roedd Pryderi yn fab i Pwyll a Rhiannon, a phan yn faban fe'i cipiwyd noswyl Calan Mai. Ar yr un noson bob blwyddyn roedd Teyrnon, arglwydd Gwent Is Coed, yn colli ebol, a'r flwyddyn honno arhosodd yn effro i amddiffyn yr ebol. Y tro hwn, wrth iddo weld crafanc yn anelu am yr ebol fe drawodd y fraich gyda'i gleddyf, a disgynnodd baban ohoni.
Magodd ef a'i wraig y baban hwn nes ei fod yn blentyn cryf, ac un diwrnod fe sylwodd ar y tebygrwydd rhwng y plentyn a Phwyll Pendefig Dyfed. Aethpwyd ag ef yn ôl at ei wir rieni, ac o ganlyniad i'r pryder a achoswyd dros y blynyddoedd, penderfynwyd ei alw yn Pryderi fab Pwyll.
|