|
Roedd tad Rhiannon, Hefeydd Hen, yn awyddus iddi briodi Gwawl, ond roedd Rhiannon yn anghytuno'n chwyrn gyda dewis ei thad a throdd ei golygon tuag at Pwyll, arglwydd saith cantref Dyfed.
Yn ystod gwledd briodas Rhiannon a Phwyll llwyddodd Gwawl i dwyllo Pwyll i addo iddo law Rhiannon mewn priodas flwyddyn yn union yn ddiweddarach. Yn ystod eu gwledd briodas hwy, llwyddodd yntau Pwyll i dwyllo Gwawl i roi Rhiannon yn ôl iddo ef, gan wneud iddo dyngu na fyddai fyth yn dial ar y ddau wedi hynny.
Ganwyd mab i Rhiannon a Pwyll, ond ar noson Calan Mai cipiwyd y baban ar ôl i rhywun roi swyn ar y morynion oedd i fod i'w warchod. Pan sylweddolodd y morynion fore trannoeth beth sydd wedi digwydd, fe wnaethant argyhoeddi pawb mai Rhiannon oedd wedi lladd y baban, er mwyn achub eu crwyn eu hunain, a chafodd Rhiannon ei chosbi am flynyddoedd oherwydd hyn.
Ar ôl poeni a phendroni ynglyn â diflaniad y baban, chwe mlynedd yn ddiweddarach daeth Teyrnon, arglwydd Gwent Is Coed, a'i wraig â bachgen draw atynt ar ôl sylwi ar y tebygrwydd anhygoel rhyngddo â Phwyll. Hwn, yn wir, oedd eu mab colledig. Oherwydd y blynyddoedd o bryder a achosodd y bachgen i'w rieni, cafodd ei alw'n Pryderi fab Pwyll.
Pan oedd Pryderi yn las lanc, aeth i ymladd gyda byddin Bendigeidfran i Iwerddon, ac ar ôl brwydr waedlyd yno, ef a Dan, brawd Bendigeidfran, oedd y ddau o'r saith milwr ddychwelodd yn fyw. Penderfynodd Dan beidio olynu Bendigeidfran yn frenin, ac aeth gyda Phryderi i lys Rhiannon, oedd yn weddw erbyn hynny. Syrthiodd Rhiannon a Dan mewn cariad, ac er gwaethaf ymdrechion Llwyd i wneud eu bywyd yn anodd, bu'r ddau'n hapus byth ar ôl hynny.
|