Pen-blwydd Hapus S4C!
-
Ar 1 Tachwedd 1982 dechreuodd S4C darlledu - yr unig sianel deledu Gymraeg yn y byd.
-
Dai Jones - un o wynebau mwyaf cyfarwydd a phoblogaidd S4C. Mae Dai wedi cyflwyno 27 cyfres o Cefn Gwlad.
-
Jones Jones Jones - torrwyd y record byd am gasglu’r nifer fwyaf o bobl â’r un cyfenw yn yr un man ym mis Tachwedd 2006. Darlledodd S4C y gyngerdd a gynhaliwyd i ddathlu’r digwyddiad yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd.
-
Y nifer o enwebiadau ar gyfer Oscar® a dderbyniodd ffilmiau S4C (Hedd Wyn, Yr Enwog Ffred, Y Wraig o Gaerfaddon, Solomon a Gaenor).
-
Y nifer o wobrwyon cartref a rhyngwladol mae’r gyfres ddrama Con Passionate wedi ennill hyd yma (Rose d’Or, dwy wobr Prix Europa, Gŵyl y Cyfryngau Celtaidd a BAFTA Cymru).
-
6 ffilm oedd yng nghyfres gyntaf Shakespeare: Y Dramâu wedi’u Hanimeiddio. Gwerthwyd y rhaglenni i dros 50 o wledydd ac enillodd y gyfres wobrau yng Ngŵyl Ffilm Efrog Newydd a’r Primetime Emmys yn America.
-
Bydd cyfres 7 o Tipyn o Stâd yn cael ei darlledu yn 2008.
-
Mae’r rhif 8 yn allweddol i’n gwasanaethau ar y sgrîn. Mae is-deitlau Saesneg ar 888 ac is-deitlau Cymraeg i ddysgwyr ar 889. Mae dros 80% o arlwy S4C yn cael ei his-deitlo.
-
Rhif crys Dwayne Peel, chwaraewr talentog ifanc yng ngharfan rygbi Cymru a chyflwynydd Rygbi 100%.
-
Mae 10 Disg Amryddawn Digidol (DVD) o un o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C, C’Mon Midffîld, wedi gwerthu bron i 10,000 o gopïau ar label Sain, ar ben y miloedd o fideos a werthwyd cyn hynny.
-
Mae gwefan weithredol wedi bod gan S4C ers 11 mlynedd. Aeth y tudalennau cyntaf ar-lein yn 1996!
-
Dechreuodd Rownd a Rownd yn 1995, ac eleni mae’n dathlu deuddeg mlynedd ar y sgrîn. Mae’r set yn atyniad mawr ym Mhorthaethwy, tra bod ambell i ymwelydd wedi credu bod y caffi a’r siop trin gwallt yn llefydd go iawn!
-
Mae cyfres Sali Mali wedi gwerthu i 13 o diriogaethau dros y byd. Mae’r ferch fach hoffus a’i ffrindiau’n apelio at blant ym mhob man.
-
Mae Gwifren Gwylwyr S4C wedi bod yn derbyn galwadau gan y cyhoedd ers i’r gwasanaeth gael ei lansio yn 1993. Hyd yma eleni, mae’r Wifren wedi derbyn dros 8,000 o ymholiadau.
-
Mae S4C wedi darlledu cystadleuaeth Cân i Gymru ers 15 mlynedd, er bod y gystadleuaeth ei hun yn dyddio’n ôl i 1969—yn hŷn o dipyn nag S4C!
-
Bu 16 o gyflwynwyr yn eich croesawu i Uned 5 ers i’r rhaglen gychwyn yn 1994. Ym mis Tachwedd eleni bydd yn darlledu rhifyn 1,000.
-
Gwerthwyd y gyfres animeiddio Holi Hana i 17 o wledydd. Bydd ail gyfres o hanesion yr hwyaden gymwynasgar yn siŵr o gadw’r plant sydd wedi cymryd ati’n hapus iawn.
-
Nifer y rhaglenni dros 3 chyfres o Tair Chwaer, hanes un teulu cythryblus ond agos yng ngorllewin Cymru.
-
Bydd Sgorio tymor 2007-8 yn golygu fod y gyfres bêl-droed boblogaidd ar S4C ers 19 tymor—mae hwnna’n lot o gôls!
-
Caiff 20 peint o laeth y diwrnod eu defnyddio mewn diodydd poeth gan staff ac ymwelwyr S4C!
-
Oed Sam Tân. Daeth Pontypandy yn fyw yn 1986, gyda Sam, Norman, Elvis, Bella a’r criw yn diddanu plant Cymru a’r byd.
-
Dyma oedd oedran Matthew Rhys pan enillodd ei wobr BAFTA Cymru cyntaf am ei ran yn y ffilm Bydd yn Wrol. Bellach mae’n wrol ar y teledu yn Brothers and Sisters ar C4 ac S4C.
-
Oedran Ioan Gruffudd pan lamodd i ddyfroedd dyfnion Hollywood yn y ffilm Titanic, a datblygu ei yrfa ar ochr arall y Môr Iwerydd. Dechreuodd ei yrfa actio, wrth gwrs, ar Pobol y Cwm, cyfres sebon fwyaf hirhoedlog y BBC.
-
Oed yr animeiddwraig dalentog Joanna Quinn pan wnaeth hi ei ffilm gyntaf am Beryl. Yn 2007 enillodd Beryl, y Briodas a’r Fideo wobr BAFTA Cymru. Roedd y ffilm eisoes wedi ennill 25 o wobrau mewn gwyliau animeiddio ledled y byd.
- Mae S4C yn gwasanaethu ei chynulleidfa ers 25 mlynedd - Pen-blwydd Hapus!
- Gwylio rhagflas