Neidio at y cynnwys

S4C

Pen Talar

Siwrne epig dau ffrind, a hanes cenedl dros hanner canrif

1962. Sling-shots, go-karts a losin bazooka, dyna sy'n llenwi bywydau Defi Lewis a'i ffrind gorau, Doug. Plentyndod delfrydol, perffaith yng nghefn gwlad Sir Gâr. Nes iddyn nhw weld rhywbeth a ddygodd eu diniweidrwydd ar yr un diwrnod a ddygwyd diniweidrwydd y Gorllewin, pan saethwyd JFK yn Dallas.

Pen Talar yw drama fawr yr hydref ar S4C; cyfres epig, 9 pennod, sy'n dilyn Defi a Doug o'r diwrnod tyngedfennol hwnnw, dros hanner canrif, drwy un o'r cyfnodau mwyaf tymhestlog yn hanes Cymru, hanes y byd a'u hanes nhw.

Richard Harrington, Ryland Teifi a Mali Harries yw sêr y gyfres hon, a fydd i rai yn stori am baradwys coll, i eraill, stori o obaith am baradwys wedi ei adennill. Yn sicr, mae hon yn ddrama daer, gref a fydd yn ysgogi atgofion a breuddwydion cenedl gyfan.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales