Neidio at y cynnwys

S4C

Pen Talar

Defi Lewis

Pennod 9 (2009/2010)

Mae Defi'n dal i fyw ym Mhen Talar gyda Doug a Siân tra bod Mari ei ferch yn astudio celf yn y brifysgol yng Nghaerdydd. Maen hapus ei fyd nes i rywbeth ddigwyddodd yn 1962 ddychwelyd i darfu ar y llonyddwch unwaith yn rhagor ac mae'n rhaid iddo ymladd unwaith eto.

Pennod 8 (1997)

Noson y refferendwm ac mae cyffro yn y wlad. Ond yn hytrach na dathlu, mae trasiedi yn taro Defi wrth i Awen farw yn dilyn damwain car. Mae Defi'n beio ei hun am y ddamwain ac mae pethau'n ddu iawn ym Mhen Talar.

Pennod 7 (1997)

Mae hi'n 1997 ac mae Tony Blair a'r Blaid Lafur yn cipio'r etholiad cyffredinol. Gyda Llafur mewn pŵer, mae Defi'n taflu ei hun i mewn i'r ymgyrch ddatganoli. Mae e'n byw gydag Awen a'u merch, Mari, ym Mhen Talar gyda Siân.

Pennod 6 (1990)

Defi wedi'n llwyr ail-gydio ym mywyd Caerdydd ar ôl drama'r wythdegau ac wedi dechrau gyrfa fel sgriptiwr. Mae ei fam yn dioddef o afiechyd alzheimers ym Mhen Talar ond does ganddo ddim amser i helpu ei chwaer sy'n edrych ar ei hôl. Yng nghanol hyn i gyd mae Awen, ei gariad o'r ysgol, yn dychwelyd i'w fywyd.

Pennod 5 (1984)

Mae streic y glöwyr yn ei anterth ac mae Defi'n athro mewn ysgol uwchradd yng Nghymoedd y De. Mae Defi wedi cymryd cam yn ôl o fywyd cyhoeddus ac ymgyrchu cenedlaethol ac yn manteisio ar y cyfle i feithrin ac ysbrydoli meddyliau ifanc yn y gymuned.

Pennod 4 (1979)

Rydym yn gweld Defi yn 27 ac yn gweithio fel darlithiwr yn yr LSE. Mae'n byw gyda Isobel, ei gariad o brifysgol. Ar ddechrau'r bennod mae'n gorffen ei berthynas gydag Isobel ac yn symud nôl i Gymru gan ddechrau ei wleidyddiaeth eithafol unwaith eto.

Pennod 3 (1974)

Mae Defi nawr yn 22 ac yn gwneud y mwyaf o'i amser fel myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'n ymrwymo'n fwy i wleidyddiaeth radical ac eithafol ac hefyd yn mwynhau'r ffordd o fyw.

Pennod 2 (1969)

Mae Defi nawr yn 17 ac yn cymryd diddordeb gweithredol mewn gwleidyddiaeth. Mae wedi aeddfedu i fod yn foi ifanc gwladgarol, cryf ac angerddol. Caiff ei ystyried yn beniog a ddeallus, ond dydy e ddim yn cymdeithasu gyda'r grŵp rygbi chweched-dosbarth poblogaidd.

Pennod 1 (1962 - 1963)

Mae Defi yn 10 mlwydd oed ar ddechrau'r gyfres ac yn dod o Ddyffryn Tywi ger Caerfyrddin. Mae o deulu dosbarth canol, gydag addysg dda, wedi'i gor-amddiffyn gan ei fam. Er hynny mae ganddo gymeriad annibynnol.

Mab ei dad yw Defi. Hyd yn oed yn 10 mlwydd oed mae Defi yn edmygu ei dad yn fawr. Mae Defi yn foi bywiog, chwilfrydig, ac yn ffrind ffyddlon i Douglas.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales