Neidio at y cynnwys

S4C

Pen Talar

Douglas Green

Pennod 9 (2009/2010)

Mae Doug yn olygydd y papur newydd lleol ac mae'n rhoi pob cefnogaeth y gallai i Siân gyda'i gyrfa wleidyddol. Mae'n mwynhau bywyd distaw ac yn hoff o arddio, ond mae yna rhywbeth yn dod ag ef a Defi'n ôl at ei gilydd unwaith yn rhagor.

Pennod 8 (1997)

Mae Doug yn penderfynu newid ei ffordd o fyw ac mae'n rhoi'r gorau i yfed. Mae hefyd yn cyfaddef wrth Siân ei fod yn ei charu ac mae'r ddau'n dechrau perthynas.

Pennod 7 (1997)

Mae Doug yn yfed yn drwm ac mae'n colli rheolaeth ar ei fywyd. Mae ei berthynas â Judith yn dod i ben wedi iddi hi gael perthynas â dyn arall, ond mae ei berthynas gyda Siân yn datblygu.

Pennod 6 (1990)

Mae Doug yn byw gyda Defi yng Nghaerdydd ond mae wedi dechrau yfed yn drwm. Mae'n helpu Siân ym Mhen Talar gan wneud ychydig o waith o amgylch y tŷ ac mae wedi cymryd ffansi at ferch sy'n byw mewn fflat agos iddo.

Pennod 5 (1984)

Mae Doug erbyn hyn yn gweithio i un o bapurau newydd Fleet Street yn Llundain ac yn ysgrifennu dipyn am y streic fawr. Mae ei gyfeillgarwch â Defi wedi tyfu unwaith yn rhagor ond mae cwmwl du ar y gorwel iddo.

Pennod 4 (1979)

Mae ei yrfa fel newyddiadurwr yn datblygu'n llwyddiannus iawn, wrth weithio i'r Mirror ac yna ar ei liwt ei hun. Mae ei berthynas gyda Defi yn gyfnewidiol, ond mae ei agwedd ymarferol yn aml yn achub ei gyfaill. Er ei fod yn dwlu ar ferched, does ganddo ddim bywyd teuluol gan fod ei fywyd ynglwm â'i waith.

Pennod 3 (1974)

Mae Douglas nawr yn 22 ac yn newyddiadurwr gyda'r papur lleol yng Nghaerfyrddin. Mae'n mwynhau ei annibyniaeth ariannol newydd tra bod Defi'n fyfyriwr tlawd. Mae'r ddau'n parhau i gadw mewn cysylltiad er nad ydyn nhw'n ffrindiau pennaf bellach.

Pennod 2 (1969)

Mae Douglas yn 17, ac mae mwy o hyder a chymeriad ganddo erbyn hyn. Mae wedi darganfod merched - go iawn! Ac mae ganddo hyder diymdrech. Er ei fod e a Defi'n mynd i ysgolion gwahanol, mae eu cyfeillgarwch yn gryfach nag erioed. Mae Douglas yn ymarferol iawn ac mae ei draed ar y ddaear.

Pennod 1 (1962 - 1963)

Mae Douglas yn 10. Mae'n byw mewn tŷ cyngor gyda'i dad alcoholig, Albert. Bu farw ei fam flwyddyn yn ôl.

Mae e'n wyliadwrus o dymer treisgar ei dad ar ôl iddo yfed. Mae'n weddol annibynnol ac yn adnabod y byd yn dda. Mae'n fachgen blêr ac yn cael ei weld fel bachgen drwg a 'rough' gan blwyfolion Rhydcaeau. Mewn gwirionedd mae'n fachgen onest a pharchus (heblaw am gwpl o weithiau yn ifanc, fel dwyn o focs casgliad y capel).

Mae'n mynd i ysgol gyfun yn hytrach na'r ysgol ramadeg fel Defi. Yn amlwg yn boblogaidd ymhlith ieuenctid y dre - gwelwn ni e'n achub Defi am y tro cyntaf, ac mae hyn yn parhau am flynyddoedd i ddod.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales