Enid yw mam Defi a Siân, mae hi tua 41 yn y rhaglen gyntaf.
Er bod ei gŵr yn wleidyddol, dim ond cefnogi o bell mae hi. Mae hi'n cefnogi ei farn wleidyddol ond yn teimlo weithiau bod ei ddaliadau'n mynd yn rhy bell.
Mae hi'n amddiffynnol iawn o'i theulu, sy'n niweidiol iddi hi ei hun ar adegau. Gall fod yn ffroenuchel, ac nid yw'n hapus bod Defi yn cymysgu gyda phlant o stâd y cyngor. Mae ei statws o fewn y gymuned yn bwysig iawn iddi ac mae'n ceisio dylanwadu ar ei phlant i fabwysiadu ei gwerthoedd hi.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales