Mae John wedi derbyn addysg dda; mae'n dad i Defi a Siân ac yn ŵr i Enid. Mae'n brifathro yn yr ysgol gynradd leol, ac mae'n athro da sy'n ennyn parch disgyblion a rhieni.
Mae e'n gadarn, ond yn deg ac yn garedig. Mae ganddo ymwybyddiaeth wleidyddol gref, mae e'n genedlaetholwr pybyr ac yn cefnogi'r iaith i'r carn. Mae ei dybiaethau cryfion wrth galon bywyd teuluol Pen Talar.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales