Mae Siân wedi bod yn Aelod o'r Cynulliad ers deng mlynedd ond mae hi'n anghytuno a pholisïau'r cynulliad o gau ysgolion bach ac mae'n ymddiswyddo. Oherwydd hyn, mae'n dychwelyd i ymgyrchu ar lefel gymunedol gan helpu'r bobl leol.
Nid ei pherthynas â Doug yn unig sy'n newydd i Siân. Yn dilyn marwolaeth Awen mae hi'n cael ei pherswadio i sefyll yn etholiadau'r cynulliad yn lle Defi ac mae'n dechrau gyrfa yn y sefydliad newydd.
Mae Siân yn parhau i ymgyrchu, y tro hwn dros ddatganoli. Er bod ei ffrind, Berian yn ei ffansio, mae'n amlwg bod Siân mewn cariad â Doug.
Mae Siân yn ceisio ei dal hi ym mhob man wrth gynnal gyrfa ac edrych ar ôl ei mam. Mae Berwyn ei ffrind yn ceisio'i chusanu ond mae'n debyg bod ganddi ei llygaid ar rywun arall.
Mae Siân wedi ail ddarganfod ei rhyddid yn dilyn ei ysgariad. Mae hi'n weithgar iawn yn y gymuned, yn helpu'r teuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio gan y streic.
Mae Siân yn 33 ac yn briod i Philip ond does gennyn nhw ddim plant. Mae hi dal yn byw yn agos i Ben Talar ac mae'n edrych ar ôl ei mam weddw. Wrth i'r gyfres ddatblygu rydym yn synhwyro dadrithiad yn ei phriodas a'i bywyd cyffredinol. Mae hi'n ymwybodol ei bod gyda mwy i gynnig a gwelwn ni hi yn datblygu yn ystod y gyfres, wrth adael Philip a sylweddoli ei photensial fel menyw annibynnol.
Mae Siân yn 28, mae hi dal yn gweithio yn y banc ac yn briod gyda Philip. Mae hi'n plesio ei mam trwy ddilyn y camau disgwyliedig, ond mae ei pherthynas â Defi'n gwanhau.
Mae Siân yn 23. Mae hi'n gweithio yn y banc lleol ac yn dal i fyw gartre. Fel gweddill y teulu, does dim diddordeb ganddi yn nathliadau'r arfwisgiad. Mae'n well ganddi hi fynd i'r sinema gyda Philip, rheolwr y banc. Yn unol â dyheadau'r cyfnod, cwrdd â darpar ŵr a dechrau teulu yw blaenoriaeth Sian. Mae ei mam yn cymeradwyo hyn.
Yn 16, mae Siân yn ferch synhwyrol ac annwyl. Mae hi'n parchu ei rhieni ac yn dilyn eu cyfarwyddiadau - ar y cyfan!
Mae Siân yn caru ei brawd iau, Defi, ac yn gofalu amdano pan fod trwbl yn ei ddilyn. Mae Siân yn ferch aeddfed, glên, gyfeillgar a chyfrifol. Mae'n amlwg fod ganddi nerth ac angerdd a fydd yn sicrhau llwyddiant a pharch iddi ryw ddiwrnod.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales