
Heledd Cynwal a thîm o arbenigwyr Perthyn sydd yn rhoi rhai o’ch straeon teuluol chi o dan y chwyddwydr.
Led led Prydain mae dros 2 filiwn o bobl wedi cychwyn ar y gwaith o chwilota i hanes eu teulu. Ond i’r achwr amatur – ble yn union mae dechrau? Dyma rai canllawiau i’ch cynorthwyo i fynd ati.
O dystysgrifau geni neu fabwysiadu i dystysgrifau priodas a marwolaeth – mae Cofrestri Sifil yn llawn cliwiau i fynd a chi gam ymhellach yn eich ymchwil.
Ers 1837 mae bron pob carreg filltir yn ein bywydau wedi cael eu cofnodi gan y wlad – pob genedigaeth, priodas a marwolaeth.
Mae’r tystysgrifau gwreiddiol yn cael eu cadw yn y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yn Llundain – ond mae modd gweld mynegeion ar gyfer y blynyddoedd 1837–1998 yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae modd cael mynediad i’r wybodaeth hyd at y flwyddyn 2006 ar wefannau Ancestry a Findmypast sydd ar gael yn rhad ac am ddim yn eich archifdy lleol ac yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Byddwch yn ofalus gydag enwau, falle bod eich wncwl ‘Jack’ wedi cael ei eni’n ‘John’, neu falle bod y cyfenw ap Gruffydd wedi troi yn Griffiths.
Tra bo priodasau neu farwolaethau yn tueddu i gael eu cofrestru yn syth, dyw hyn ddim yn wir am enedigaethau. Gall y tystysgrif geni ddyddio hyd at chwech wythnos wedi’r dyddiad geni. Felly byddwch yn ofalus wrth chwilio.
Defnyddiwch y tystysgrif geni i fynd â’ch ymchwil ymhellach. Gall nodi enw morwynol y fam, a galwedigaeth y tad. Gyda’r wybodaeth yma gallwch fynd ati i chwilio am eu tystysgrif priodas.
Bydd y tystysgrif priodas yn nodi oedran y ddau yn ogystal ag enwau eu tadau, a ble’r oedden nhw’n byw. Gwybodaeth all gynnig cymorth i chi ddod o hyd i gofnodion Cyfrifiad.
Rhywbryd yn ystod eich gwaith ymchwil, ’dych chi’n siŵr o fwrw wal haearn yn yr ymchwil. Ewch yn ôl at y manylyn diwethaf y gallwch chi brofi, ac ewch ar drywydd arall. Peidiwch â digalonni!
« Y Cyfrifiad Hen Luniau »© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales