
Heledd Cynwal a thîm o arbenigwyr Perthyn sydd yn rhoi rhai o’ch straeon teuluol chi o dan y chwyddwydr.
Led led Prydain mae dros 2 filiwn o bobl wedi cychwyn ar y gwaith o chwilota i hanes eu teulu. Ond i’r achwr amatur – ble yn union mae dechrau? Dyma rai canllawiau i’ch cynorthwyo i fynd ati.
Catalog arlein sy’n cynnig gwybodaeth am gasgliadau a chofnodion hanesyddol 21 o archifau led led Cymru. Cewch fanylion hefyd am eich archifdy lleol, yn ogystal â chael cyngor ar sut i drefnu’ch ymweliad â’r archifdy.
Mynediad i dros 4 biliwn o gofnodion hanesyddol. Cewch gymorth hefyd i ddylunio eich coeden deulu. Mae angen tanysgrifio i’r wefan hon ond mae mynediad am ddim ar gael yn eich archifdy lleol ac yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
Cewch chwilota drwy 750 miliwn o gofnodion hanesyddol yn ymwneud â hanes eich teulu yn ogystal â llunio coeden deulu. Mae angen tanysgrifio i’r wefan hon ond mae mynediad am ddim ar gael yn eich archifdy lleol ac yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
Casgliad arlein o ddogfennau, lluniau a straeon am bod agwedd o hanes Cymru a thu hwnt. Mae cyfle i chi rannu eich straeon ar y wefan.
Mae gwefan Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru yn eich galluogi i weld miloedd ar filoedd o safleoedd archaeolegol, henebion, adeiladau a hen safleoedd arforol yng Nghymru.
Mynediad i wefannau Amgueddfa Cymru.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales