Gwyneth Lewis yn y Gadair

Mae drama gyntaf y bardd Gwyneth Lewis ar ei ffordd! Bydd ei fersiwn hi o’r chwedl Roegaidd Clytemnestra, yn cael ei llwyfannu gan Sherman Cymru rhwng Ebrill 18fed a Mai 5ed.

Dewisodd osod y stori yn y dyfodol agos. Mae’r olew wedi darfod, ac mae’r byd yn ymladd am fwyd. I achub ei bobl, mae Agamemnon yn aberthu ei ferch i’w gynghreiriaid barbaraidd. Mae Clytemnestra, y fam a gafodd ei bradychu, yn llawn cynddaredd ac yn aros iddo ddychwelyd.

Godineb, phwer a dialedd sy’n gyrru’r addasiad newydd hwn o’r chwedl Roegaidd. Mae ymarferion yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd

Mae cyfweliad gyda Gwyneth am y ddrama ar wefan Sherman Cymru a rhagolwg o’r sioe ar wefan Buzz

Mwy o fideos ar Sianel Youtube Pethe

Gadewch Sylw