Heno bydd Pethe yn edrych ar hanes a datblygiadau Geiriadur yr Academi, a gyhoeddwyd ym 1995.
Yn 2006, fel rhan o’r Fedwen Lyfrau, recordiodd Y Sioe Gelf raglen arbennig i S4C a oedd yn edrych yn ôl ar ganrif o gyhoeddi yn y Gymraeg, gyda phob math o gyfranwyr yn dewis llyfrau o bwys ac artistiaid yn cyfrannu perfformiadau i gyd-fynd efo llyfr o bob degawd. Llyfr y 1990au oedd Geiriadur yr Academi.
Dyma oedd barn rhai o gyfranwyr y rhaglen ar “Y Briws”
Un o uchafbwyntiau’r noson oedd cân a gyfansoddwyd a berfformwyd gan Ifor ap Glyn a’r Genod Droog. Mwynhewch!
Erbyn hyn wrth gwrs mae fersiwn ar-lein o’r Geiriadur wedi ymddangos – roedd yn brosiect a ariannwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac yn ddatblygiad sydd wedi cael croeso brwd, ac ambell i sylw adeiladol ers ei lansio. Er fod y Bwrdd bellach wedi ei ddiddymu, bydd y gwaith o addasu ac adnewyddu’r geiriadur yn parhau dan arweiniad Comisiynydd Y Gymraeg, Meri Huws a ddechreuodd ei gwaith heddiw.
Mwy o fideos ar Sianel Youtube Pethe
