‘Caersaint’ – Adolygiad Angharad Tomos

Dydd Mercher, Mawrth 10, 2010, 15:28

Bydd y fersiwn llawn o’r adolygiad hwn gan y nofelydd Angharad Tomos yn ymddangos yn y rhifyn nesaf o Taliesin , allan ar Ebrill 1af, 2010.


Caersaint

Mawr fu’r disgwyl am nofel arall gan Angharad Price, wedi llwyddiant ysgubol O! Tyn y Gorchudd. Aeth wyth mlynedd faith heibio, ond o’r diwedd, dyma hi. Allech chi ddim cael dwy nofel fwy gwahanol i’w gilydd.

Hogyn ifanc cyffredin, dosbarth gweithiol ydi Jamal Gwyn Jones, o gefndir ethnig cymysg, a hwn ydi llefarydd annisgwyl y stori. Wedi dianc o Gaersaint dan amgylchiadau amheus, mae’n dychwelyd i’r dref saith mlynedd yn ddiweddarach, i dŷ a adawyd iddo mewn ewyllys hen wraig. Hynt a helynt yr hogyn hwn gawn ni am rai wythnosau, yng nghwmni cymeriadau lliwgar Caersaint.

Mae’n gymaint portread o’r dref ag ydyw o gymeriad, ac i mi, dyma oedd rhan o’i hapêl. Tref ddychmygol ydyw, ond llen denau sydd yn ei chuddio, ac mae tyrau Castell Caernarfon, ei daearyddiaeth ac enwau’r siopau a’r strydoedd yn rhy amlwg i ni beidio cadw y Gaernarfon go iawn yn ein meddwl fel cefnlen y nofel.

Angharad Price

Angharad Price, awdur Caersaint sy'n cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa

Yn ein traddodiad llenyddol dosbarth canol, dipyn o embaras ydi cymdeithas Gymraeg ddosbarth gweithiol tref fel Caernarfon.

Mae yno ar ymylon ein cydwybod, a gwyddom  fod yn rhaid i’r Gymraeg wrth gymdeithasau fel hyn er mwyn ei pharhad, ond pur amharod yr ydym i’w cynnwys yn ein llenyddiaeth. Yn y nofel hon, cânt le ar ganol y llwyfan, a chawn ddigon o fodd i fyw yn dilyn eu hynt a’u helynt.

Mewn tafarndai, ar y Maes Glas, ac ar lannau’r Fenai, cawn ddod i adnabod Haydn Palladium, Phil Golff, Heulwen Hwr, Pepe, Alun Stalin, Pen Menyn a Magmum – y ci sy’n hoff o’i gwrw – heb sôn am ferched cofiadwy megis yr Almaenes Almut a’r anghymarol Babs Inc. Oes, mae yna arlliw o gymeriadau Harri Parri yma, ond mae’n fwy gwleidyddol na chriw Porth yr Aur.

Yr hyn sy’n rhoi’r min ar y nofel yw’r ornest fawr i ddewis maer i Gaersaint. Mae gwneud rhywun fel Jamal yn brif gymeriad nofel yn ddigon annisgwyl, mae dod ag o ben ben  â gŵr parchus dosbarth canol fel Med Medra yn gam beiddgar. Rydan ni gyd yn gyfarwydd â’r math hwn o Gymro ac yn y portreadau deifiol mae hiwmor mentrus y nofel. Yn islais i’r cyfan mae cwestiynau dwys – pa fath o ddyfodol yr ydym am ei weld i drefi fel Caersaint? Pwy pia’r grym? Pwy sydd yn cynrychioli gwahanol garfanau o’r gymdeithas? A yw rhoi gwedd Gymreig arni yn newid natur cyfalafiaeth o gwbl? Dyma sydd yn ei gwneud yn nofel gwbl gyfoes.

I orffen yn obeithiol, mi ddyfynaf eiriau Almut am Gaersaint, ‘Mae ’na gnewyllyn o rywbeth sy’n werth brwydro drosto fo yma … Cymeriad y lle. Iaith unigryw. Y diwylliant. Y cyfoeth.’ Mae tlodi a dirywiad yn peri inni anghofio hyn yn rhy aml. Mae ein parchusrwydd ninnau fel llen dros ein llygaid yn peri inni anwybyddu haenau eraill o gymdeithas. Diolch i Angharad Price am dynnu’r gorchudd mewn ffordd dra gwahanol yn y nofel hon.

Angharad Tomos

Roedd y nofel Caersaint yn cael ei thrafod ar raglen gyntaf Pethe. (Gallwch ei gwylio ar Clic tan Ebrill 6)

Un ymateb i “‘Caersaint’ – Adolygiad Angharad Tomos”

  1. Rhestr fer llyfr y flwyddyn | Pethe :

    [...] Yn anffodus does dim cyfweliad gyda Angharad Price gyda gwefan Pethe (ar hyn o bryd) ond cliciwch i ddarllen adolygiad Angharad Tomos o Caersaint.. [...]

Gwneud sylw