Chwarae Duw?
Dydd Iau, Gorffennaf 15, 2010, 16:16

Gwyliwch y rhaglen hon o Dweud Pethe ar Clic.
Ym mis Mai 2010 cyhoeddodd Dr Craig Venter ei fod ef a’i dîm yn yr Unol Daleithiau wedi creu’r gell gyntaf i gael ei rheoli’n llwyr gan DNA synthetig, datblygiad, meddai, a all fod â goblygiadau mawr i’n hiechyd ac i’r amgylchyd.
Dyma Dr Craig Venter yn siarad ar rhaglen Newsnight y BBC am greu cell synthetig yn ei labordy.
Oes yna beryg fod gwyddonwyr yn chwarae Duw?
Meddai’r gwyddonydd Iolo ap Gwynn, “Mae’n hawdd dychryn pobl a chreu Frankenstein…ond beth ydy hwn yn y bôn ydy defnyddio gwybodaeth, dod i wybod mwy, creu ‘arfau biolegol’ da ni’n gallu arbrofi â nhw er mwyn dod i ddeall yn well be sy’n digwydd yn y byd – i fantais wrth gwrs achos ‘ma ‘na lawer iawn o afiechydon, cyflyrau ac yn y blaen sydd angen y math yma o ymchwil.”
Ydych chi’n cytuno â Dr Gwynn neu ydych chi’n gweld creadigaeth Dr Craig Venter fel cam peryglus?





