C’mon England!
Dydd Llun, Mehefin 28, 2010, 09:37
Ydy hi’n bryd i ni adel y gorffennol i fynd a chefnogi’r bechgyn dros y ffin pan font yn chwarae pêl-droed? Ydy hi ddim yn blentynaidd ein bod ni’n cael ein cythruddo gyda baneri San Sior ar geir ac ar bariau siocled Mars?

Arweiniodd Phil Stead, colofnydd pêl-droed Golwg, ymgyrch yn erbyn dangos baneri San Sior mewn siopau yng Nghymru. Meddai, “Dyw Lloegr ddim byd i neud efo fi. Dwi’n cefnogi tîm Cymru a Lloegr yw un o’n gwrthwynebwyr mwya’ ni. Sen i byth yn y byd yn cefnogi Lloegr. Rhai o’r nosweithiau gorau yn fy mywyd i oedd ar ôl gweld Lloegr yn cael ei cnocio allan – yn enwedig ar penalties.”
Mae’r nofelydd Dewi Prysor yn cytuno ac ym mynd ymhellach. Iddo ef mae’r gair ‘Lloegr’, y baneri San Sior, a thîm pêl-droed Lloegr yn symbylau o imperialaith a’r holl anghyfiawnderau mae’r wlad fawr drws nesa wedi ei wneud â Chymru.
Gyda Lloegr bellach ar y ffordd adref o Dde Affrica mae’n fwy na phosib mai dathlu fydd y ddau uchod yr wythnos yma. Ond ydy hyn yn deg? Ai ansicrwydd sydd wrth wraidd y fath deimladau?
Oes modd symud ymlaen a datblygu perthynas mwy aeddfed gyda’n cymdogion? Beth yw’ch barn chi am hyn?





