Côr Rhuthun yn 30
Dydd Llun, Tachwedd 21, 2011, 13:30
Mae Côr Rhuthun yn dathlu deg mlynedd ar hugain eleni ers ei sefydlu fel Côr Aelwyd Rhuthun yn 1981. Yn ddiweddar bu’r Côr yn dathlu’r achlysur arbennig yma, a chafodd Pethe y pleser o ymuno yn y dathliadau …

Dyma’r Côr Rhuthun yn canu Anfonaf Angel gan Robat Arwyn, arweinydd y côr. Geiriau gan Hywel Gwynfryn. Yn wreiddiol cyfansoddodd Robat Arwyn y gân yn arbennig ar gyfer Bryn Terfel. Recordiwyd y perfformiad yn Neuadd Pwllglas lle mae’r côr yn ymarfer.
Hefyd, perfformiodd y côr Gyõrgy Orbán can gan Gyõrgy Orbán, cyfansoddwr Hwngaraidd, sef “Mundi Renovatio”
Yn ystod y ffilmio, tynnodd ffotograffydd Pethe luniau o’r côr yn ymarfer.
Yn noson dathlu Penblwydd Côr Rhuthun cynhaliwyd cwis. Dyma gyfle i chi weld pa mor dda ydach chi’n adnabod y Côr…
Cwis Côr Rhuthun
1. Ym mha flwyddyn drôdd y Côr Merched yn Gôr Aelwyd Rhuthun?
2. Sawl cân gan Robat Arwyn a genir gan y côr ar hyn o bryd?
3. Pa gân ydi hoff gân Robat Arwyn a genir gan y côr? (ar hyn o bryd)
4. Sawl pâr priod sydd yn y côr rwan?
5. Sawl gwisg fu gan ferched y côr?
6. Sawl aelod presennol sy’n daid neu’n nain?
7. Sawl caset/disg neu CD ryddhawyd yn enw’r côr hyd yn hyn? (Heb gynnwys disgiau lle bu’r côr yn cyfrannu iddynt, ee Perlau Gras, Nadolig Newydd…..)
8. Sawl tro fu’r côr ar daith dramor?
9. Beth ydi’r nifer mwyaf o aelodau sydd wedi bod yn y côr?
10. Sawl tro y bu’r côr yn Briec de l’Odet, Llydaw (gefeilldref Rhuthun)
11. Sawl tro mae’r Côr wedi cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol?
12. Mewn sawl canolfan mae’r côr wedi bod yn ymarfer?
13. Faint o lywyddion / Cadeiryddion fu gan y côr?
14. Ym mha flwyddyn y perffomriodd y Côr yng Ngŵyl Gobaith yn yr Wyddgrug?
15. Be ddigwyddodd pan ofynnodd Robat Arwyn am gael symud y piano ar lwyfan Eisteddfod Gendlaethol Llanelli 2000?
16. Gorffennwch y frawddeg yma gan un o’r beirniaid yn Eisteddfod Llangollen 1996:
“____ singing by a ____ choir”
17. Gyda pha gôr wnaethon ni rannu llwyfan yn ein cyngerdd blynyddol yn 2010?
18. Ym mhle recordiwyd Er Hwylio’r Haul yn 2006?
19. Pa 2 gôr ymunodd â ni i ffilmio Meseia Handel yn 2003?
20. Sawl perfformiad cyhoeddus mae’r Côr wedi eu gwneud dros y 30 mlynedd (gan gynnwys sesiynnau recordio a chystadlu)?
——————————
ANAGRAMAU o ganeuon genir/ganwyd gan Gôr Rhuthun
CEG Y NAIN, TAD Y LLO
RÔL SAL A CRAP
GWELL YN DDYN A.A.
MA BRA FI OMA
Y LLYN A DEG LLWY
DWL YDI NIN
CHI’N BENAU DA
SYR, EIN BRÊN
EI GÔR NATH GANTON (neu GONTAN!)
EW! Y DYN DEL SY’N LLYFWR
———————–
ATEBION CWIS
1. 1981
2. Tri : Anfonaf Angel / Benedictus / Lux Aeterna (ond wedi canu tua 48 ganddo erioed!)
3. Rwy’n dy weld yn sefyll
4. Saith: Huw & Iona McKee; Huw & Ella Ty’n Chambers; Dylan & Menna; Rob & Jan; Marc & Buddug; Gerallt & Bethan; Arwyn & Mari
5. Chwech: Coler wen; Coch a belt; Pinc sgleiniog; Coch llaes; Magenta gwddw sgwâr; Top a trowsus du
6. Pedwar: Gethin; Eleri Telpyn; Teresa; Nan Vaughan
7. Saith: Chwarae’n Troi’n Chwerw, Hwylio Mlaen, Wyth ar y Dot, Mynyddoedd y Meseia, CD: Llawenydd y Gân (Goreuon Côr Rhuthun); Atgof o’r Sêr; Er Hwylio’r haul
8. Chwech: Cill Airne 1983 – Iseldiroedd 1986 – Paris 1992 – Llydaw 1994 – Llydaw 2003 – Sligo 2006
9. 83 i 85 – ar gyfer perfformiad o Atgof o’r Sêr yn Eisteddfod 2001 (Dinbych)
10. 2 waith
11. 20
12. 2 – (Festri’r Tabernacl & Neuadd Pwllglas)
13. 7 (neu
: SPG – Iwan Vaughan – Gerallt – Dei – Arwyn – Menai – Dyfan – (Dafydd Roberts???)
Llywyddion anrhydeddus: Eryl Maestyddyn, Glenys Jones, Rhys Meirion, Gwyn Erfyl, ???
14. 2009
15. Aeth olwyn y piano dros gebl trydan a diffoddwyd holl oleuadau’r pafiliwn!
16. “Fine singing by a fine choir”
17. Uwch Adran Rhuthun
18. Theatr John Ambrose, Ysgol Brynhyfryd
19. Eifionydd a Sireniaid
20. 410
—————————————–
ATEBION ANAGRAMAU o ganeuon genir/ganwyd gan Gôr Rhuthun
1. Cytgan y Lleianod
2. Carol Parsal
3. Llawenydd y Gân
4. Ombra Mai Fu
5. Yn Llygad y llew
6. Dilynwn Di
7. Un enaid bach
8. Brenin y Sêr
9. Gogoniant a Nerth
10.Rwy’n dy weld yn sefyll





