Cyflwynwyr
Nia Roberts
Beth mae’r term diwylliant yn ei olygu i ti?
Dwi’n meddwl, os oes ganddoch chi ddiwylliant, dyna sy’n rhoi’r lliw i’ch bywyd ac yn cyfoethogi’ch bywyd.Allwn i byth byw heb gerddoriaeth ac mae cerdd dant yn rhywbeth dwi’n ei fwynhau’n fawr iawn oherwydd mae o’n cyfuno cerddoriaeth gyda’r hoffter sydd gen i o eiriau. Mae o’n ffordd o gyfleu barddoniaeth, rhoi dimensiwn arall i gerdd, fel bod rywun yn gallu clywed a theimlo rhywbeth gwahanol pan mae’n clywed y gerdd yn cael ei chanu.
Dwi’n lico geiriau, dwi wrth fy modd efo cyfoeth y Gymraeg. Mi ‘nes i Ladin yn yr ysgol a Ffrangeg ac Eidaleg. Mi ‘nes i Eidaleg yn y flwyddyn gynta yn y coleg. Un peth dwi’n edifar amdano yw na ‘nes i barhau i ‘neud Eidaleg fel ran o ‘ngradd. ‘Nes i fynd am yr opsiwn saff – Cymraeg a Drama – achos odd yr opsiynau eraill yn golygu mynd i’r Eidal am dipyn. Do’n i ddim yn gyfarwydd â lot o bobl oedd yn teithio, doedd e ddim yn rhan o ‘mhrofiad i, odd e’n rhy ddiarth, felly o’n i ofn o mae’n siwr.
Pan dwi’n darllen llyfrau dwi’n licio dianc. Dwi’n anghofio pob dim amdana’ i fy hun ac yn sydyn dwi’n byw bywyd rhywun arall…dwi’n gallu clywed, gweld a theimlo be’ ma’ nhw’n ei glywed gweld a theimlo.
Dwi hapusaf pan mae nhraed i mewn tywod. Allwn i byth a byw yn bell iawn o’r môr. Ces i fy magu ar lan y môr, yr atgofion cynta’ sy’ gen i yw bod ar y traeth – dwi ddim yn gwybod a oes yna derm Cymraeg am ‘beach bum’ – ond dyna lle dwi hapusa’. Ar y traeth, hefo fy nheulu yn cael picnic!
Un peth dwi’n trio ei gofio yw peidio â chymryd bywyd gormod o ddifri ac i fwynhau’r foment. Dwi’n cofio’r cyngor ges i gan fy nhad pan o’n i’n mynd i arwain fy Eisteddfod Genedlaethol gynta yn 1999. Y cwbl wnaeth o ddweud wrtha i oedd, ‘Gwna fo efo gwên’. Dwi’n meddwl bod hwnna’n rywbeth i’w gofio beth bynnag mae rhywun yn ei wneud mewn bywyd.
Rhun ap Iorwerth
Beth mae’r term diwylliant yn ei olygu i ti?
Mae’n gwestiwn ‘dan ni wedi ei ofyn lot wrth baratoi ar gyfer y rhaglen yma. Mae e’n golygu cymaint o bethau gwahanol, mae ‘na ddiwylliant efo ‘D’ fawr, eisteddfod, celf, llenyddiaeth a barddoniaeth ond mae e hefyd yn golygu cymaint mwy na hynny. Byddwn i’n cyfrif chwaraeon, yn enwedig rygbi, yn rhan o’n diwylliant ni.Dwi wastad wedi canu ers yn hogyn bach ac wedi cystadlu mewn eisteddfodau. Dwi’n trio cyflwyno cymaint o gerddoriaeth â dwi’n gallu i’r plant, maen nhw’n canu’r piano ac yn canu. Dwi’n chwarae’r gitâr a’r piano ac yn cyfansoddi dipyn adra’. Mae cerddoriaeth yn bwysig iawn i fi.
Dwi’n neud lot o bethau corfforol, dwi’n caiacio dipyn o gwmpas Ynys Môn yn yr haf, dwi’n seiclo lot yn yr haf hefyd. Bydda i’n trio gwneud un trip hir y flwyddyn ar y beic, yr un diweddara’ oedd o Ynys Môn i Gaerdydd.
Dwi hapusaf pan dwi efo’r teulu adra yn y tŷ yn potsian. Efo ‘ngitâr bydda i’n hapus iawn, pan dwi ar lethrau’r Alpau yn sgio, byddai’n hapus iawn. Mae ‘na lot o bethau sy’n rhoi gwên fawr ar fy wyneb i.
Gwnaeth fy rhieni argraff fawr arna i. Dwi’n agos iawn atyn nhw. Mae’n braf byw nôl yn agos at fy rhieni ar ôl blynyddoedd i ffwrdd – dyna oedd un o’r rhesymau mawr dros symud yn ôl i Ynys Môn. Maen nhw’n bobl dda, mae ganddyn nhw lot o amser i bobl eraill, a mae hynny’n wers allwn ni gyd ei dysgu.
Petawn i’n cael fy amser ‘nôl a ddim yn cael gwneud yr un peth, a tase gen i’r talent, mi fyddwn i’n gerddor. Milfeddyg o’n i’n mynd i fod drwy’n ieuenctid, falle byddwn i wedi mwynhau hynny hefyd. Ond ar y cyfan dwi’n ddigon hapus!





