DJ Williams

Dydd Mawrth, Awst 3, 2010, 11:58

Mae’n ddeugain mlynedd ers i DJ Williams farw. Yng nghapel bach Rhydcymerau ddigwyddodd hynny, a fe newydd ddychwelyd i’w sedd ar ôl annerch y gynulleidfa niferus. Meddai John Gwyn Griffiths yn y gyfrol Bro a Bywyd ar DJ, ‘Anodd meddwl am ddiwedd mwy addas, ac yntau wedi dychwelyd am ennyd i gysegrfan ei Hen Ardal.’ Mae’n siwr mai fel Llenor a Chenedlaetholwr y caiff DJ Williams ei gofio’n bennaf.  Dyna sut y caiff ei ddisgrifio ar lechen sydd ar wal Abernant, y tŷ lle y bu fyw pan yn blentyn. Roedd yn gymaint mwy na hynny wrth gwrs.  Bu’n ŵr i Sian yn un peth, yn athro ysgol ar ddegau o blant Abergwaun hefyd, ac yn gyfaill oes i nifer megis Waldo Williams. Bu’n dipyn o fabolgampwr hefyd yn ôl tystiolaeth ambell i lun mwy annisgwyl.

Yn ogystal â’i lenyddiaeth a’i wleidyddiaeth efallai mai’r hyn a gaiff ei ddathlu’n bennaf am David John Williams yw ei berthynas â Rhydcymerau ei hun. Dyn ei filltir sgwar os fuodd yna un erioed.  Mae Dafydd Iwan wedi canu wrth gwrs am y gŵr o Rydcymerau ac Emyr Hywel wedi cyhoeddi cofiant i’r Cawr o Rydcymerau. Ond yr hyn sy’n eithaf eironig  i’w nodi yw iddo adael Rhydcymerau yn 16eg oed byth i fyw yno wedyn. Wrth gwrs nid hyd y cyfnod a dreuliodd yno sy’n bwysig, ond ei ddwysder a dyfnder ei effaith. Er mai yng nghyfnod plentyndod y mae person yn fwyaf tebygol o gael ei ddylanwadu fwyaf – cyfnod ffurfiannol yn wir – mae’r ffaith i bobl y fro gael cymaint o ddylanwad arno mewn cyfnod cymharol fyr yn dyst hefyd  i gyfoeth a gwres eu diwylliant.

Er mawr gywilydd dwi’m yn cofio i fi fod yn Rhydcymerau erioed o’r blaen, tan ddoe. (A fi’n dod o Sir Gaerfyrddin fy hun!)  Ganrif a mwy ar ôl cyfnod DJ yno’n blentyn mae’n bentref eithaf diarffordd o hyd ac roedd cyrraedd ambell i leoliad i ffilmio’n ddigon anodd. Cawsom ein tywys lan i dir ffermdŷ diarffordd Penrhiw yng ngherbyd 4×4 y perchennog Edwin Morgan i weld y fan lle y ganed DJ. Roedd hi’n haws o lawer cyrraedd y capel yng nghanol y pentref ond yr un oedd y croeso yno gan Agnes Williams, a Mair Wilson ei merch, a oedd yn cofio DJ yn iawn ac yno’n y capel pan fu farw ym 1970.

Ar un olwg mae yna eironi arall i berthynas DJ Williams â’i ardal. Sef bod dyn wnaeth sôn cymaint am ei filltir sgwar weddol gyfyng wedi meithrin gweledigaeth genedlaethol mor fawr. Ond cyfeiliornus fyddai meddwl felly. Nid cyfyng oedd cymdeithas Rhydcymerau a’r ardal o gwbwl, nid ym meddwl DJ beth bynnag. Patrwm oedd Rhydcymerau iddo o’r hyn yr hoffai i Gymru fod. Cymdeithas wâr a chreadigol, yn hyderus ond gwylaidd a theg; yn werinol ond cyfoethog ei diwylliant. Dyma’r gymdeithas a fowldiodd DJ’r llenor a’r cenedlaetholwr hefyd. Yn ogystal a DJ’r protestiwr. DJ un o dri Penyberth.

A dyna fel y cofia nifer amdano’n bennaf mae’n siwr. Y rhai sydd heb agor llyfr o’i eiddo erioed ond sy’n gwbod am yr un weithred honno. Un noson, un weithred symbolaidd ond pennod â newidiodd ei fywyd am byth. Neu ymateb eraill i’w fywyd o leia. Soniodd yna amal i un wrthyf yn Rhycymerau am yr ymateb cymsyg a fu’n lleol i brotest Penyberth. Roedd rhai’n frwd o blaid wrth gwrs ond eraill yn siomedig, yn ofnadwy o ddig am iddo ddwyn y fath anfri ar yr ardal.

Mae protestio, neu wrthdystio, wedi bod yn bwnc llosg erioed (sori!) ac yn dal i fod felly. Os am brawf o hynny gwrandewch ar Gareth Miles, Hywel Williams a Menna Machraeth yn anghytuno (nid dadlau!) ar Dweud Pethe. Gyda phwy fyddai DJ wedi ochri dwedwch?!

Fydd yr eitem ar DJ Williams a Rhydcymerau ymlaen ym mis Medi pan ddaw Pethe yn ôl ar y sgrin. Mwy o ffilmio tan hynny. Cyfle i fi ymweld â mannau eraill tra phwysig, sy’n rhan o’n cof a’n diwylliant fel gwlad. Ambell i fan am y tro cyntaf mae’n siwr!

blogiwr: Gwion Hallam

Un ymateb i “DJ Williams”

  1. Dai Tomos :

    Mae Etholaeth Dwyrain Caerfyrddin wrthi’n casglu arian i dwtio bedd D.J, ac mae’r ymateb ledled Cymru wedi bod yn dda iawn.

Gwneud sylw