Dramau’r Eisteddfod

Dydd Iau, Awst 19, 2010, 09:11

Gwyliwch y drafodaeth ar Pethe Hwyrach

Er na fu teilyngdod yn y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd, roedd yna nifer o ddramau yn cael eu llwyfannu. Yn ôl panel Pethe Hwyrach roedd ambell i ddrama yn well na’i gilydd.

Roedd canmoliaeth mawr i ddwy ddrama Aled Jones Williams sef Chwilys a’i ddrama ddiweddaraf, Merched Eira.

Meddai’r artist ac awdur, Osi Rhys Osmond, “Dwi’n meddwl fod [Merched Eira] fel ‘arctic Beckett.”

Henaint, unigrwydd a brad cyfrinachau sydd wrth galon Merched Eira. Meddai Aled Jones Williams ei hun, “Mae Merched Eira yn ddrama sy’n archwilio ystyron posib hunaniaeth. Sut mae’r ‘Fi’ ieuanc a’r canol oed yn darganfod ei le yn y ‘Fi’ sy’n heneiddio.”

Meddai’r adolygydd drama Paul Griffiths, “I mi, dyma un o uchafbwyntiau’r wythnos..o’n i’n teimlo bod ‘na hiwmor yna, bod na ddyfnder yna, astudiaeth o henaint, astudiath o farwolaeth.”

Roedd panel Pethe Hwyrach yn ganmoliaethus iawn i’r ddwy actores,  Gaynor Morgan Rees and Olwen Rees. Meddai’r dramodydd, Ian Rowlands, “Odd hi’n fantastig gweld dwy hen actores sydd dal yn gryf, yn bwerus ac ar dop eu gêm.

Er fod yna ganmol hefyd i Gwlad yr Addewid, cyfieithad/addasiad Sharon Morgan o ddrama Ed Thomas, House of America, roedd yna feirniadaeth hallt o lwyfaniad y Theatr Genedlaethol ohoni.

Meddai Ian Rowlands, “Mae’r ddrama yn arbennig..netho nhw [y Theatr Genedlaethol] ddim ymddiried yn y ddrama, doedd dim dawn ‘da nhw sut i ddehongli’r ddrama hon.”

Roedd Paul Griffiths yn cytuno “O’n i’n teimlo fod cyfieithad neu addasiad Sharon Morgan yn wych, o’n i’n teimlo bod y peth yn farddonol, odd y ddeialog yn canu ac o’n i’n teimlo bod yr elfen ieithyddol yn gweithio’n wych…i mi gwendid y cyfan oedd y cyfarwyddo a’r actio..o’n i’n teimlo  hefyd bod y set yn wan, yn ddi-ddychymyg, yn dila, just gwendidau cyffredinol efo testun mor gryf.”

Ychwanegodd, “Mae ‘na ddiffyg gweledigaeth…byddai modd gwneud pob math o bethau efo set y ddrama yma, mae gennych chi’r glo, mae gennych chi’r pyllau, yr ehangder yma, y bygythiad o’r byd tu allan. Doedd ‘na ddim byd felly.”

Trafododd y panel sioe Gareth Potter, Gadael Yr Ugeinfed Ganrif, hefyd.

Gwneud sylw