Erydiad Rhyddid Personol
Dydd Gwener, Awst 6, 2010, 14:29

Gwyliwch y ddadl ehangach ar Dweud Pethe
Mae camerau ‘CCTV’ yn parhau yn symbolau o’r ‘brawd mawr’: y wladwriaeth neu gwmni mawr yn ein gwylio a chasglu gwybodaeth amdanom er mwyn ei ddefnyddio yn ein herbyn. Ond mewn gwirionedd mae yna ffyrdd llawer mwy craff o’n gwylio ac mae cwmniau – os nad y llywodraeth – yn gwneud hynny ar raddfa eang.
Yn ôl y blogiwr Guto Dafydd pwrpas gwefannau megis Facebook a Twitter yw bod pobl eraill yn gallu gweld yr hyn yr ydych yn eu rhoi arnynt.
Ond meddai, “Dwi ddim mor hapus pan mae’r wybodaeth dwi’n rhoi i mewn i google…yn cael ei werthu i gwmni arall sy’ eisiau gwerthu rywbeth i fi.”
“Mae cwmniau mawr yn mynd i drio gwerthu y chwiliadau ‘da chi’n neud ar y we..i gwmniau eraill..dych chi wedi rhoi’r wybodaeth ‘ma mewn yn meddwl mae’r cwbl sy’n digwydd yw eich bod chi’n cael gwybodaeth yn ôl ond mae’r wybodaeth yna yn cael ei ddarparu i gwmniau sy’n mynd i wneud lot o arian allan o beth da chi’n i ddweud.”
Ond dyw’r ddarlledwraig Catrin Beard ddim yn gweld problem â hynny. Meddai, “Os ydy pobl yn gweld yr hyn da chi’n ‘i chwilio amdano fe ar y we, dwi ddim cweit yn siwr be di’r broblem ‘da hynny, oni bai eich bod chi efallai yn edrych ar rywbeth na ddylech chi fod yn edrych arno.”
Beth yw eich barn chi am hyn? Beth yw’r ots os oes yna gwmni wedi dilyn eich cliciadau i’r dudalen hon ac cesio gwerthu llyfr George Orwell, 1984, i chi. Ydy hyn ddim yn gwneud eich bywyd yn haws yn y pendraw?





