Pethe

Un Nos Ola Leuad
Darlleniadau newydd gan John Ogwen.

I gydfynd â phenwythnos o raglenni i ddathlu 50 mlwyddiant Un Nos Ola Leuad dyma ddarnau newydd sydd heb eu gweld o’r blaen o’r rhifyn arbennig o Pethe – Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad. (darllediad cyntaf, Tachwedd 25, 2011).  Taith yw’r rhaglen o gwmpas ‘byd go iawn’ nofel fawr Caradog Prichard. Yng nghwmni John Ogwen a’r hanesydd J Elwyn Hughes cawn grwydro i dudalennau dychmygol – a go iawn! – y nofel.

Ar gyfer ei ffilmio yn darllen darnau o’r nofel aethom â John Ogwen yn ôl i ganol Bethesda ac i’r Victoria Hotel lle y bu’n darllen o’r nofel ddeugain mlynedd yn ôl i neb llai na Caradog Prichard ei hun. Mae yna glip ohono’n gwneud yn y rhaglen sy’n dangos y dafarn yn orlawn, ei chymeriadau yn gwrando a chwerthin. Roedd y dafarn wedi cau erbyn hyn, yn wag ac ar werth. Ond trwy lais a dehongliad John Ogwen daw’r nofel yn fyw unwaith eto. A daw lluniau Ruth Jên, sy’n gefnlen distaw ar y muriau, â rhai o gymeriadau y nofel unwaith eto i’r dafarn wag.

Gwyliwch i gael gweld drosoch eich hun. Dau ddarlleniad cyferbyniol yn enghreifftiau o hiwmor a hagrwch y nofel.

Y gêm bêldroed fythgofiadwy!

Gweld Em Brawd Now Bach Glo ar ganol Lôn Bost.

Côr Rhuthun yn 30
Mae Côr Rhuthun yn dathlu deg mlynedd ar hugain eleni ers ei sefydlu fel Côr Aelwyd Rhuthun yn 1981. Yn ddiweddar bu’r Côr yn dathlu’r achlysur arbennig yma, a chafodd Pethe y pleser o ymuno yn y dathliadau …

Dyma’r Côr Rhuthun yn canu Anfonaf Angel gan Robat Arwyn, arweinydd y côr. Geiriau gan Hywel Gwynfryn. Yn wreiddiol cyfansoddodd Robat Arwyn y gân yn arbennig ar gyfer Bryn Terfel. Recordiwyd y perfformiad yn Neuadd Pwllglas lle mae’r côr yn ymarfer.

Hefyd, perfformiodd y côr Gyõrgy Orbán can gan Gyõrgy Orbán, cyfansoddwr Hwngaraidd, sef “Mundi Renovatio”

Yn ystod y ffilmio, tynnodd ffotograffydd Pethe luniau o’r côr yn ymarfer.

<object width="400" height="300" classid="clsid:d27cdb6e-ae6d-11cf-96b8-444553540000" codebase="http://download.macromedia.com/pub/shockwave/cabs/flash/swflash.cab#version=6,0,40,0"><param name="flashvars" value="offsite=true&lang=en-us&page_show_url=%2Fphotos%2F68704117%40N08%2Fsets%2F72157627819012291%2Fshow%2F&page_show_back_url=%2Fphotos%2F68704117%40N08%2Fsets%2F72157627819012291%2F&set_id=72157627819012291&jump_to=" /><param name="allowFullScreen" value="true" /><param name="src" value="http://www.flickr.com/apps/slideshow/show.swf?v=109615" /><param name="allowfullscreen" value="true" /><embed width="400" height="273" type="application/x-shockwave-flash" src="http://www.flickr.com/apps/slideshow/show.swf?v=109615" flashvars="offsite=true&lang=en-us&page_show_url=%2Fphotos%2F68704117%40N08%2Fsets%2F72157627819012291%2Fshow%2F&page_show_back_url=%2Fphotos%2F68704117%40N08%2Fsets%2F72157627819012291%2F&set_id=72157627819012291&jump_to=" allowFullScreen="true" allowfullscreen="true" /></object>

Yn noson dathlu Penblwydd Côr Rhuthun cynhaliwyd cwis. Dyma gyfle i chi weld pa mor dda ydach chi’n adnabod y Côr…

Cwis Côr Rhuthun

1.     Ym mha flwyddyn drôdd y Côr Merched yn Gôr Aelwyd Rhuthun?

2.   Sawl cân gan Robat Arwyn a genir gan y côr ar hyn o bryd?

3.   Pa gân ydi hoff gân Robat Arwyn a genir gan y côr? (ar hyn o bryd)

4.   Sawl pâr priod sydd yn y côr rwan?

5.     Sawl gwisg fu gan ferched y côr?

6.     Sawl aelod presennol sy’n daid neu’n nain?

7.     Sawl caset/disg neu CD ryddhawyd yn enw’r côr hyd yn hyn? (Heb gynnwys disgiau lle bu’r côr yn cyfrannu iddynt, ee Perlau Gras, Nadolig Newydd…..)

8.     Sawl tro fu’r côr ar daith dramor?

9.   Beth ydi’r nifer mwyaf o aelodau sydd wedi bod yn y côr?

10.   Sawl tro y bu’r côr yn Briec de l’Odet, Llydaw (gefeilldref Rhuthun)

11.   Sawl tro mae’r Côr wedi cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol?

12.   Mewn sawl canolfan mae’r côr wedi bod yn ymarfer?

13.   Faint o lywyddion / Cadeiryddion fu gan y côr?

14.   Ym mha flwyddyn y perffomriodd y Côr yng Ngŵyl Gobaith yn yr Wyddgrug?

15.	Be ddigwyddodd pan ofynnodd Robat Arwyn am gael symud y piano ar lwyfan Eisteddfod Gendlaethol Llanelli 2000?

16.	Gorffennwch y frawddeg yma gan un o’r beirniaid yn Eisteddfod Llangollen 1996:

“____ singing by a ____ choir”

17.	Gyda pha gôr wnaethon ni rannu llwyfan yn ein cyngerdd blynyddol yn 2010?

18.	Ym mhle recordiwyd Er Hwylio’r Haul yn 2006?

19.	Pa 2 gôr ymunodd â ni i ffilmio Meseia Handel yn 2003?

20.	Sawl perfformiad cyhoeddus mae’r Côr wedi eu gwneud dros y 30 mlynedd (gan gynnwys sesiynnau recordio a chystadlu)?

ANAGRAMAU o ganeuon genir/ganwyd gan Gôr Rhuthun

CEG Y NAIN, TAD Y LLO

RÔL SAL A CRAP

GWELL YN DDYN A.A.

MA BRA FI OMA

Y LLYN A DEG LLWY

DWL YDI NIN

CHI’N BENAU DA

SYR, EIN BRÊN

EI GÔR NATH GANTON (neu GONTAN!)

EW!  Y DYN DEL SY’N LLYFWR

ATEBION CWIS

1.   1981

2.  Tri : Anfonaf Angel / Benedictus / Lux Aeterna   (ond wedi canu tua 48 ganddo erioed!)

3.   Rwy’n dy weld yn sefyll

4.   Saith: Huw & Iona McKee; Huw & Ella Ty’n Chambers; Dylan & Menna; Rob & Jan;  Marc & Buddug; Gerallt & Bethan; Arwyn & Mari

5.     Chwech: Coler wen;  Coch a belt; Pinc sgleiniog; Coch llaes; Magenta gwddw sgwâr; Top a trowsus du

6.     Pedwar: Gethin; Eleri Telpyn; Teresa; Nan Vaughan

7.    Saith: Chwarae’n Troi’n Chwerw,  Hwylio Mlaen,  Wyth ar y Dot, Mynyddoedd y Meseia, CD: Llawenydd y Gân (Goreuon Côr Rhuthun); Atgof o’r Sêr; Er Hwylio’r haul

8.     Chwech: Cill Airne 1983 – Iseldiroedd 1986 – Paris 1992 – Llydaw 1994 – Llydaw 2003 – Sligo 2006

9.   83 i 85 – ar gyfer perfformiad o Atgof o’r Sêr yn Eisteddfod 2001 (Dinbych)

10.   2 waith

11.  20

12.   2 – (Festri’r Tabernacl & Neuadd Pwllglas)

13.   7 (neu  : SPG – Iwan Vaughan – 	Gerallt – Dei – 	Arwyn – Menai – Dyfan – (Dafydd Roberts???)

Llywyddion anrhydeddus:  Eryl Maestyddyn, Glenys Jones, Rhys Meirion, Gwyn Erfyl, ???

14.    2009

15.	Aeth olwyn y piano dros gebl trydan a diffoddwyd holl oleuadau’r pafiliwn!

16.	“Fine singing by a fine choir”

17.	Uwch Adran Rhuthun

18.	Theatr John Ambrose, Ysgol Brynhyfryd

19.	Eifionydd a Sireniaid

20.	410

ATEBION ANAGRAMAU o ganeuon genir/ganwyd gan Gôr Rhuthun

1. Cytgan y Lleianod

2. Carol Parsal

3. Llawenydd y Gân

4. Ombra Mai  Fu

5. Yn Llygad y llew

6. Dilynwn Di

7. Un enaid bach

8. Brenin y Sêr

9. Gogoniant a Nerth

10.Rwy’n dy weld yn sefyll

Un Nos Ola Leuad yn 50
Mae’n hanner canrif ers cyhoeddi’r nofel Un Nos Ola Leuad. Ym 1961 y cyhoeddwyd nofel drawiadol a dylanwadol Caradog Prichard am y tro cyntaf. Mae wedi ei hargraffu gan Wasg Gee, Gwasg Gwalia a chan Y Lolfa yn fwy diweddar. Mae ar faes llafur ein hysgolion, yn cael ei hastudio’n ein colegau ac yn cael ei chrybwyll gan nifer fel eu hoff nofel Gymraeg, neu hyd yn oed y nofel orau erioed. Gydag ychydig o gywilydd felly y gwna i gyfaddef mod i yn fy ugeiniau cyn darllen y nofel am y tro cyntaf. Efallai ei bod yn un o’r nofelau yr o’n i fel myfyriwr cydwybodol (!) yn Ysgol Maes yr Yrfa i fod wedi ei darllen. Ond stori arall yw honno!

Mewn gwely yn Ysbyty Walton Lerpwl y gwnes i ddarllen Un Nos Ola Leuad gyntaf, mewn uned newrolegol brysur a fi yno’n cryfhau wedi llawdriniaeth. Nid y lle mwyaf addas efallai!  Neu efallai mai dyna’r union le i wneud!  Achos i raddau, mae hi’n nofel am salwch. Yn nofel sy’n ymwneud â salwch meddwl ei hun, ymysg pethau eraill wrth gwrs. O’r ddalen gyntaf un mae yna sôn am ‘bobol y pentra yn mynd o’u coua’ ac erbyn diwedd  y nofel mae yna fwy nag un o’r cymeriadau wedi eu gyrru i’r Seilam, tri y gwnes i eu cyfri yn sydyn. (Mae yna bedwar os credu mai’n y seilam y mae’r ‘Dyn’ sy’n cerdded drwy’r nofel wedi bod?)

Wil Elis Portar. Un na chafodd ei hun yn y Seilam.

Efallai mai hagrwch y nofel yw un o’r pethau sy’n cadw rhai rhag ei darllen. A’r ffaith ei bod yn dorcalonnus o drist ar adegau wrth godi mwy na chwr y llen ar gorneli tywyllaf y meddwl. Ond mae yna gymaint mwy na hynny iddi, ac mae hiwmor yn pelydru drwy’r nofel. Wrth ymchwilio iddi’n ddiweddar ar gyfer ffilmio rhaglen i Pethe dyna un o’r pethau am trawodd o’r newydd. Mai nid dim ond yn y digwyddiadau sy’n amlwg ddoniol – fel y gêm bêl droed honno lle y mae’r reffari yn gorfod dianc am ei fywyd – y mae’r hiwmor. Nid pwrpas darnau felly yw bod yn ‘light relief’. Mae goleuni hiwmor a chwerthin yn gwreichioni drwy’r nofel gyfan. A dyna un o’r pethau – yn fy marn bach i – sy’n ei gwneud yn nofel mor arbennig o bwerus. Bod yr hiwmor a’r tristwch, y galar a’r gwenu, yn cordeddu trwy ei gilydd yn union fel ag y gwna’n ein bywyd bob dydd.

Un arall o luniau trawiadol Ruth Jên a argraffwyd o 1988 ymlaen

Wrth ffilmio rhaglen arbennig o Pethe dros y mis dwetha ym Methesda fe fuodd yna gryn chwerthin, a thrafod ar hiwmor y nofel.  Rhaglen am Fyd Go Iawn Un Nos Ola Leuad yw hon,  sydd i’w darlledu ar nos Wener y 25ain o Dachwedd. Cyfle i fynd ar daith gyda dau o ardal y nofel a oedd yn adnabod ei hawdur – John Ogwen a J Elwyn Hughes.  Soniodd John Ogwen am y profiad bythgofiadwy o gael darllen y nofel dros ddeugain mlynedd yn ôl mewn noson lle roedd yr awdur ei hun yn bresennol.  Wrth ddarllen  ym mhulpid capel mawr  Bethesda mae John yn cofio gweld Caradog Prichard yn eistedd yn y sedd  fawr yn gwrando arno’n darllen a’r dagrau’n powlio i lawr ei ruddiau ond a chanddo wên lydan ar ei wyneb yr un pryd.

“A dyna ddarlun perffaith o’r nofel ,” meddai John Ogwen. “Crio chwerthin hefyd y mae Un Nos Ola Leuad.”

Mae wedi bod yn bleser cael ail ymweld â’r nofel.  Ei darllen eto o dan amylchiadau tra gwahanol y tro yma! A gweld mwy ynddi eto o wneud.  Agoriad llygad oedd cael ymweld hefyd â Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad yng nghwmni J Elwyn Hughes a’i ymchwil. Dyna ein rhaglen ni. Pethe arbennig lle yr awn ar daith hefo John Ogwen a J Elwyn Hughes trwy strydoedd go iawn y nofel unigryw a gyhoeddwyd hanner canrif yn ôl.

Bydd yna benwythnos o ddathlu ar S4C yn agor hefo ‘Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad’ ar nos Wener y 25ain o Dachwedd.

blogiwr : Gwion Hallam

Rhys Iorwerth a’r Adar Gleision
Mae Nia Roberts yn mynd i Stadiwm Dinas Caerdydd i gyfarfod y Prifardd Rhys Iorwerth, sy’n sôn am ei ddiddordeb mewn pêl-droed, ac yn adrodd dwy gerdd newydd sbon i ni.

Oriel Mon – Kyffin Williams & Charles Tunnicliffe
Mae ‘Oriel Môn’, Llangefni , yn 20 oed eleni , ac mae ‘Pethe’ yn edrych ar hanes yr Oriel

Mae ‘Ysbrydoliaeth yr Ynys’ yn ddetholiad o waith yr artistiaid Kyffin Williams a Charles Tunnicliffe, dau o artistiaid amlycaf Ynys Môn. Rydym ni yn ymweld â stiwdios y ddau yng nghwmni’r artistiaid Catrin Williams ac Iwan Gwyn Parry , ac mae Rhun ap Iorwerth yn cynnal trafodaeth am eu gwaith.

Heather Jones – Colli Iaith
Y gân eiconig ‘Colli Iaith’, gan Heather Jones, ddeugain mlynedd wedi cyhoeddi’r sengl wreiddiol.

Gwylliaid Cochion Mawddwy
Mewn rhifyn arbennig o ‘Pethe’ bydd Rhun ap Iorwerth yn olrhain hanes dwy ffilm Gymreig o’r 1930au. Cynhyrchwyd y ffilmiau antur am helyntion y Gwylliaid Cochion yn ardal Dinas Mawddwy , yn 1936 a 1938 , ac mae’r olaf ohonynt mewn lliw.

Ai dyma’r ffilm lliw gyntaf i ddod o Gymru erioed? Bydd ‘Pethe’yn holi rhai wnaeth ymddangos yn y ffilmiau, yn ogystal â chlywed pwy oedd y tu cefn i’r fenter , a chawn flas ar y noson arbennig a gynhaliwyd i ddangos y ffilmiau yn ddiweddar. Yn y clip yma, Cyfarwyddwr y rhaglen, Angharad Griffiths sy’n adrodd yr hanes.

Cliciwch yma i weld copi o’r sgript wreiddiol.

Creu Grogg Sam Warburton
Dyma eitem gafodd ei darlledu ar ‘Pethe’ nôl ym Mis Mawrth 2011. Mae Neil Jones o Beddau yn casglu Groggs , a phan aeth Pethe i ffilmio i gartref y cwmni , roedd y cwmni wrthi’n gorffen Grogg o gapten tîm Cymru , Sam Warburton.

Cystadleuaeth – Enillwch copi o ‘Rhwng Gwibdaith a Coldplay’
I ennill copi o lyfr barddoniaeth diweddaraf Gerwyn Williams, gwyliwch y fideo canlynol ac atebwch y cwestiwn yma. Byddwn yn tynnu enw’r enillydd allan o het. (Atebion i post@cwmnida.tv cyn 12pm, 31 Hydref, 2011)

Pwy ydi hoff gogydd Gerwyn?

Efrog Newydd Eto (Gorffennaf 2010) gan Gerwyn Wiliams
Rhesi di-ildio’r tacsis melyn

yn dal i refio ger y mannau croesi

a herio’r cerddwyr am oruchafiaeth ar y ffordd.

Ac am ganol dydd yn sfi Central Park

y creaduriaid call yn dal i gysgodi dan y coed,

heblaw’r pengwin sy’n gwatwar ein gwiriondeb

a’r arth wen sy’n nofio’n ddefodol

yn ôl ac ymlaen, yn ôl ac ymlaen

er mwyn cynnal ei ffitrwydd

ar gyfer dydd ei goruchufiaeth hithau.

Ond er bod y sgrin sy’n dal ein llun

yn adloniant yn Times Square,

ni allwn ddianc rhag y camerâu sy’n ein canlyn

a dychymyg du y dynion diogelwch

sy’n troi chwistrellwr hufen haul yn arf terfysgol.

Ac mae jig-so Manhattan ddau damaid yn brin.

Bymtheng mlynedd yn ôl,

mewn canrif arall,

Washington hirben oedd pencampwr y cofebau,

ond nid dinas i ymbwyllo mo hon

ac yn sglyfaeth i gystadleuaeth

hawliodd hyd yn oed y teitl hwnnw iddi hi ei hun.

A ger cofeb anorffen Ground Zero

mae gwerthwyr y strydoedd

am ein disychedu â thaflenni trasiedi

am yn ail â photeli dfir

tra tu ôl i’r ffensys gwarcheidiol

ym mhair y peirianwyr,

yng nghrochan yr adeiladwyr,

maen nhw wrthi’n ailgynllunio

cerfluniau rhyddid, colofnau rhyfyg.

A phob hyn a hyn,

uwch clawstroffobia’r cerbydau,

tu hwnt i’r toeau a’r tyrau,

cawn gip o’r haul wrth iddo daro

ar fetel yr awyrennau sy’n dynesu

gan roi winc slei bach wrth fynd heibio.