Gwylliaid Cochion Mawddwy

Dydd Gwener, Hydref 14, 2011, 14:39

Gwylliaid Cochion Dinas Mawddwy

Mewn rhifyn arbennig o ‘Pethe’ bydd Rhun ap Iorwerth yn olrhain hanes dwy ffilm Gymreig o’r 1930au. Cynhyrchwyd y ffilmiau antur am helyntion y Gwylliaid Cochion yn ardal Dinas Mawddwy , yn 1936 a 1938 , ac mae’r olaf ohonynt mewn lliw.





Ai dyma’r ffilm lliw gyntaf i ddod o Gymru erioed? Bydd ‘Pethe’yn holi rhai wnaeth ymddangos yn y ffilmiau, yn ogystal â chlywed pwy oedd y tu cefn i’r fenter , a chawn flas ar y noson arbennig a gynhaliwyd i ddangos y ffilmiau yn ddiweddar. Yn y clip yma, Cyfarwyddwr y rhaglen, Angharad Griffiths sy’n adrodd yr hanes.






Cliciwch yma i weld copi o’r sgript wreiddiol.


Un ymateb i “Gwylliaid Cochion Mawddwy”

  1. Arfon Hughes :

    Annwyl pethe,

    rhaglen dda iawn neithiwr yn olrhain y ffilmiau am y gwylliaid.

    braf oedd gweld cysylltiadau gyda’r cast a’r criw cynhrychu.

    roedd y noson y dangosiad yn emosiynnol iawn a llawn cyffro.

    bydde cael copi o’r rhaglen a’r ffilm yn syniad i’w harddangos yn lleol mewn canolfan dreftadaeth bosib.

    a fydde modd cael copi wedi ei hisdeitlo a’r ffilm wreiddiol i’r pwrpas hynny?

    diolch am eich gwaith caboledig a ffordd naturiol broffesiynnol Rhun wrth gyflwyno a chydlynu’r rhaglen.

    ardderchog.

Gwneud sylw