Hen Benillion Newydd?

Dydd Iau, Ebrill 15, 2010, 16:13

Meddwl sôn am Hen Benillion yr o’n i’r wthnos yma, a fi’n llwyddo i wasgu un blog yr wthnos mas ar hyn o bryd. (Ma’ ffordd well o ddweud hynna ma’n siwr!) Ond y busnes tafodiaith yma sy’n dal i droi yn y mhen i. Roedd yr eitem ar  Hen Benillion ar Pethe nos Fawrth dwetha’n ddifyr iawn, fel y bydd heno o’i ail ddarlledu wrth gwrs! Mae yna ambell i beth sy’ werth ei ail ddarlledu – medde fi’n hollol ddiduedd am ein Peth ni! – fel ag y mae amal i gyfrol sy’n haeddu ei chyhoeddi eto. A hynny fwy nag unwaith fel ag yn achos casgliad enwog TH Parry Williams o Hen Benillion sydd newydd ei gyhoeddi eto gan Gomer.

Dyna oedd barn Mei Mac ar y rhaglen wrth drafod a dyfynnu – ond peidio â chanu! – rhai o’i hoff benillion. Adroddodd Maureen Rhys a John Ogwen ddilyniant ohonynt hefyd ond wnaeth neb ganu yr un er fod nifer wedi gwneud dros y blynyddoedd. Mae nifer o’r penillion yn canu heb alaw wrth gwrs. Os nad yn cynganeddu’n llawn mae nhw’n clecian a chanu.

Rwyf yn ofer, rwyf yn yfed,
Rwyf yn g’wilydd gwlad i’m gweled,
Rwyf yn gwario fel dyn gwirion;
Ffei o feddwi, ffiaidd foddion.

Rhaid bod mewn hwylie canu i’w adrodd yn iawn.

Ond tafodiaith! Wedi’r pwt ar dafodiaith wthnos dwetha dwi’n darllen am y pwnc bron ym mhobman. Fel y soniais, mae Sian Tir Du wedi bod yn ei drafod gan ennyn mwy a mwy o ymateb. Mae’n ymddangos bod tafodiath ar feddwl y genedl gyfan, neu’r gyfran sy’n blogio o leia. Dyna i chi’r archflogiwr Carl Morris sy’n ystyried – fel y gwnaeth Pethe wthnos dwetha – yr holl eiriau gwahanol am losin. Teitl da (da da?!) ei flog diweddar yw Tafodieithoedd Melys, lle y mae’n cyfeirio at fapiau gwych Peter Wyn Thomas a Beth Thomas yn eu llyfr Cyflwyno’r Tafodieithoedd. Os am weld lle y mae loshin yn peidio a fferins yn dechrau yna gweler y map. Wedi ei ddwyn o flog Carl Morris – diolch iddo – a fe wedi ei fenthyg (neu ei fentyg) o’r llyfr am wn i.


Wrth gwrs mae trafod Hen Benillion a thafodiaith yn yr un gwynt yn reit addas. Os am ddarllen tafodiaith naturiol ein gwlad lle gwell na llinellau’r penillion?

Fe gwn yr haul pan ddêl boreddydd,
Fe gwn y tarth oddi ar y dolydd,
Fe gwn y gwlith oddi ar y meillion,
Gwae fi, pa bryd y cwn fy nghalon?

Lle ar y map uchod y mae nhw’n cwnnu’n y bore? Tua’r un cwm lle y mae nhw’n cnoi ar eu taffins?

Un ymateb i “Hen Benillion Newydd?”

  1. Yr argyfwng cynnwys arlein yn Gymraeg – hawlfraint a chaniatâd | Quixotic Quisling :

    [...] gyntaf. Sgwennais i un o fy hoff gofnodion ym mis Mawrth 2010, Tafodieithoedd Melys (diolch blog Pethe am atgoffa fi, ti newydd wedi troi pingbacks ymlaen [...]

Gwneud sylw