Oriel Mon – Kyffin Williams & Charles Tunnicliffe
Dydd Iau, Hydref 20, 2011, 14:40
Mae ‘Oriel Môn’, Llangefni , yn 20 oed eleni , ac mae ‘Pethe’ yn edrych ar hanes yr Oriel
Mae ‘Ysbrydoliaeth yr Ynys’ yn ddetholiad o waith yr artistiaid Kyffin Williams a Charles Tunnicliffe, dau o artistiaid amlycaf Ynys Môn. Rydym ni yn ymweld â stiwdios y ddau yng nghwmni’r artistiaid Catrin Williams ac Iwan Gwyn Parry , ac mae Rhun ap Iorwerth yn cynnal trafodaeth am eu gwaith.





