Protestio yn yr 21g.

Dydd Mawrth, Gorffennaf 20, 2010, 18:00

Rhaglen Protestio ac Ymgyrchu Dweud Pethe ar Clic

Yn ôl y colofnydd, y cerddor a’r anarchydd Rhys Mwyn, yr unig brotest sydd werth gwneud erbyn hyn yw peidio a phleidleisio.

“Y gwrthdystiad mwya’ diddorol, a mwya’ perthnasol, y base ni’n gallu cyflawni heddiw” meddai, “base petai ni i gyd yn dweud ein bod ni ddim yn fodlon peleidleisio; ein bod ni wedi cael digon – digon ar ddiweithdra, ar ddiffyg tai, ar ddiffyg cyfartaledd, ar ddiffyg cyfleoedd, ar ddiffyg addysg, ar y gwahaniaeth sydd yna rhwng y cyfoethog a’r tlawd.

Honna ydy’r weithred ‘rwan, yr unig un sydd ar ôl i’w gwneud. ”

Poster gan seven_resist

Dyw’r awdur Gareth Miles ddim yn cytuno. Meddai, “Petai na neb yn pleidleisio, chawsem ni ddim ryw baradwys anarchaidd..be gawsem ni fyddai cwmniau aml-wladol, neo-rhyddfrydiaeth, y fyddyn a’r sefydliad yn cael rhwydd hynt.”

Dim croes yn y blwch – gwrthdystiad neu colli cyfle?

Os nad peidio pleidleisio yna beth sydd heddiw yn effeffeithiol fel protest? I lawer mae’n ymddangos fod protestio traddodiadol – yr ymgasglu a’r sloganau drwy’r megaffon – yn ddi-ddanedd a di-angerdd.

Dyw’r colofnydd Hywel Williams ddim yn synnu bod y tân wedi mynd o fol y protestwyr. Mae ef o’r farn bod cyfalafiaeth wedi dod yn fwy ac yn fwy llwyddiannus ar ddiwedd yr 20g. ac yn sgîl hynny mae bywydau pobl wedi dod yn fwy cyffyrddus. Ac wrth gwrs mae bod yn gyffyrddus yn lladd yr awydd i frwydro yn erbyn anghyfiawnder.

Mae’r ymgyrchwraig Menna Machreth, sydd yn gadeirydd Cymdeithas Yr Iaith Gymraeg, yn rhoi lle canolog i brotest yn ymgyrchoedd y mudiad ond yn cyfaddef fod yna “broblem fawr o ran addysg wleidyddol, dyw’n system ni ddim yn dysgu ni sut mae ymateb i bethau gwahanol…dyw pobl ddim yn cwestiynu be sy’n digwydd o’u cwmpas nhw.”

Beth fyddai’n eich hysgogi chi i brotestio? A sut fyddai’r ffordd orau o wneud hynny?

Gwneud sylw