Rhy rhyddfrydol am alcohol?
Dydd Mawrth, Awst 3, 2010, 15:14
Gwyliwch y ddadl – Dweud Pethe ar Clic
Does dim dwywaith bod alcohol yn achosi problemau difrifol yn ein cymedithas. Pam felly ydy ni mor rhyddfrydol yn ein hagwedd tuag at alcohol?
Wedi’r cyfan, meddai’r dramodydd a’r offeiriad, Aled Jones Williams, sydd yn cydnabod fod ganddo broblem gyda alcohol, “Oherwydd y problemau dwi wedi cael, dwi’n cadw draw o lefydd lle mae ‘na alcohol – ac mae hynny’n golygu nad ydw i’n mynd i nunlle am fod alcohol yn holl bresennol.”
Pam felly nag oes rheolau mwy llym ar sut a lle mae alcohol yn cael ei werthu?
Mae’r seiciatrydd Dr Dafydd Alun Jones yn credu ei bod hi’n bryd i bethau newid. Mae’n cofio pan nad oedd ei gyfoedion yn yfed. Yn ei farn, y chwedegau newidiodd agwedd pobl tuag at y ddiod. “Da ni ar ein pennau yn y gascan rwan ac yn ddi-os..mi fydd na ddifrod mawr i’n cymdeithas.”

Meddai Aled Jones Williams, “Efo cyffur da ni’n delio…unwaith mae cyffur yn eich corff, y siawns ydy mai’r cyffur sy’n cymryd rheolaeth felly mae angen rhyw fath o ganllawiau a deddfau, oherwydd mae hwn yn gyffur peryglus.”
Dyw colofnydd y Daily Post, Ian Parri, sydd hefyd yn cadw tafarn yng Ngogledd Cymru, ddim yn cytuno. Meddai “Mae’r holl son am roi pwysau ar bobl sy’n yfed diod feddwol er mwyn lleihau problem pobl sy’n rhy wan i ddelio â fo, ar y cyfan, yn hollol hurt bost. Dwi’n gallu delio â fo…pam ddylwn i gael fy nghosbi am fod rhywun lawr y ffordd yn methu delio a fo?
Dydych chi ddim yn gwahardd gyrru ceir am fod gyrrwyr gwallgo ar y ffordd.”
Gwefan CAIS ( mudiad sydd â’r gwasanaethau i helpu â materion yn ymwneud â chyffuriau ac alcohol ar draws Gogledd Cymru a Phowys).





