Rhyfel Cyfiawn a Heddychiaeth
Dydd Iau, Gorffennaf 15, 2010, 14:27

Gwyliwch Dweud Pethe ar Clic
Wrth i filwyr o Gymru barhau i frwydro draw yn Affganistan, trafododd panel Dweud Pethe foesoldeb rhyfel. Pa mor foesol dderbyniol all rhyfel fod ac, ar y llaw arall, a oes modd bod yn heddychwr absoliwt?
I’r offeiriad a’r dramodydd Aled Jones Williams mae modd i heddychwr ymladd mewn rhai rhyfeloedd. “Mae rhai rhyfeloedd y medrwn ni ddefnyddio’r hyn sy’n cael ei alw’n Just War Theory [i'w disgrifio] a mae’r Ail Rhfyel Byd yn enghraifft o un o’r rhai hynny; tydi Irac nac Affganistan, na arfau niwclear, yn dod i mewn i’r Just War Theory .”
Yn ôl yr Aelod Seneddol Guto Bebb, “Mae bod yn heddychwr yn golygu eich bod chi’n derbyn be sy’n dod yn eich herbyn heb godi arf yn erbyn hynny. Dwi’n meddwl bod pobl wedi diodde yn enbyd oherywdd y safbwynt hynny. Fel mae’n digwydd dwi yn credu bod eu safbwynt nhw yn anghywir ond mae’n anodd iawn peidio eu parchu am fod yn ddigon dewr i rhoi eu moesoldeb o flaen yr hyn sy’n ddisgwyliedig ohonyn nhw.”
Meddai Meg Elis, sy’n disgrifio ei hun fel heddychwraig, “Dwi’n ddigon parod i dderbyn y label [heddychwraig] ond wi’n ymwybodol ar y llaw arall, oherwydd y sefyllfa dwi’n byw ynddi,..nad ydy fy heddychiaeth i ddim wedi cael y prawf eithaf. Byddwn i’n gyndyn o ddwued mod i’n heddychwraig full stop a dydw i ddim yn heddychwraig absoliwt.”
Beth yw eich barn chi am hyn?





