Un Nos Ola Leuad

Dydd Mercher, Tachwedd 23, 2011, 18:50

Darlleniadau newydd gan John Ogwen.

I gydfynd â phenwythnos o raglenni i ddathlu 50 mlwyddiant Un Nos Ola Leuad dyma ddarnau newydd sydd heb eu gweld o’r blaen o’r rhifyn arbennig o Pethe – Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad. (darllediad cyntaf, Tachwedd 25, 2011). Taith yw’r rhaglen o gwmpas ‘byd go iawn’ nofel fawr Caradog Prichard. Yng nghwmni John Ogwen a’r hanesydd J Elwyn Hughes cawn grwydro i dudalennau dychmygol – a go iawn! – y nofel.

Ar gyfer ei ffilmio yn darllen darnau o’r nofel aethom â John Ogwen yn ôl i ganol Bethesda ac i’r Victoria Hotel lle y bu’n darllen o’r nofel ddeugain mlynedd yn ôl i neb llai na Caradog Prichard ei hun. Mae yna glip ohono’n gwneud yn y rhaglen sy’n dangos y dafarn yn orlawn, ei chymeriadau yn gwrando a chwerthin. Roedd y dafarn wedi cau erbyn hyn, yn wag ac ar werth. Ond trwy lais a dehongliad John Ogwen daw’r nofel yn fyw unwaith eto. A daw lluniau Ruth Jên, sy’n gefnlen distaw ar y muriau, â rhai o gymeriadau y nofel unwaith eto i’r dafarn wag.


Gwyliwch i gael gweld drosoch eich hun. Dau ddarlleniad cyferbyniol yn enghreifftiau o hiwmor a hagrwch y nofel.


Y gêm bêldroed fythgofiadwy!




Gweld Em Brawd Now Bach Glo ar ganol Lôn Bost.

Gwneud sylw