Un Nos Ola Leuad yn 50
Dydd Iau, Tachwedd 17, 2011, 16:43
Mae’n hanner canrif ers cyhoeddi’r nofel Un Nos Ola Leuad. Ym 1961 y cyhoeddwyd nofel drawiadol a dylanwadol Caradog Prichard am y tro cyntaf. Mae wedi ei hargraffu gan Wasg Gee, Gwasg Gwalia a chan Y Lolfa yn fwy diweddar. Mae ar faes llafur ein hysgolion, yn cael ei hastudio’n ein colegau ac yn cael ei chrybwyll gan nifer fel eu hoff nofel Gymraeg, neu hyd yn oed y nofel orau erioed. Gydag ychydig o gywilydd felly y gwna i gyfaddef mod i yn fy ugeiniau cyn darllen y nofel am y tro cyntaf. Efallai ei bod yn un o’r nofelau yr o’n i fel myfyriwr cydwybodol (!) yn Ysgol Maes yr Yrfa i fod wedi ei darllen. Ond stori arall yw honno!
Mewn gwely yn Ysbyty Walton Lerpwl y gwnes i ddarllen Un Nos Ola Leuad gyntaf, mewn uned newrolegol brysur a fi yno’n cryfhau wedi llawdriniaeth. Nid y lle mwyaf addas efallai! Neu efallai mai dyna’r union le i wneud! Achos i raddau, mae hi’n nofel am salwch. Yn nofel sy’n ymwneud â salwch meddwl ei hun, ymysg pethau eraill wrth gwrs. O’r ddalen gyntaf un mae yna sôn am ‘bobol y pentra yn mynd o’u coua’ ac erbyn diwedd y nofel mae yna fwy nag un o’r cymeriadau wedi eu gyrru i’r Seilam, tri y gwnes i eu cyfri yn sydyn. (Mae yna bedwar os credu mai’n y seilam y mae’r ‘Dyn’ sy’n cerdded drwy’r nofel wedi bod?)
Efallai mai hagrwch y nofel yw un o’r pethau sy’n cadw rhai rhag ei darllen. A’r ffaith ei bod yn dorcalonnus o drist ar adegau wrth godi mwy na chwr y llen ar gorneli tywyllaf y meddwl. Ond mae yna gymaint mwy na hynny iddi, ac mae hiwmor yn pelydru drwy’r nofel. Wrth ymchwilio iddi’n ddiweddar ar gyfer ffilmio rhaglen i Pethe dyna un o’r pethau am trawodd o’r newydd. Mai nid dim ond yn y digwyddiadau sy’n amlwg ddoniol – fel y gêm bêl droed honno lle y mae’r reffari yn gorfod dianc am ei fywyd – y mae’r hiwmor. Nid pwrpas darnau felly yw bod yn ‘light relief’. Mae goleuni hiwmor a chwerthin yn gwreichioni drwy’r nofel gyfan. A dyna un o’r pethau – yn fy marn bach i – sy’n ei gwneud yn nofel mor arbennig o bwerus. Bod yr hiwmor a’r tristwch, y galar a’r gwenu, yn cordeddu trwy ei gilydd yn union fel ag y gwna’n ein bywyd bob dydd.
Wrth ffilmio rhaglen arbennig o Pethe dros y mis dwetha ym Methesda fe fuodd yna gryn chwerthin, a thrafod ar hiwmor y nofel. Rhaglen am Fyd Go Iawn Un Nos Ola Leuad yw hon, sydd i’w darlledu ar nos Wener y 25ain o Dachwedd. Cyfle i fynd ar daith gyda dau o ardal y nofel a oedd yn adnabod ei hawdur – John Ogwen a J Elwyn Hughes. Soniodd John Ogwen am y profiad bythgofiadwy o gael darllen y nofel dros ddeugain mlynedd yn ôl mewn noson lle roedd yr awdur ei hun yn bresennol. Wrth ddarllen ym mhulpid capel mawr Bethesda mae John yn cofio gweld Caradog Prichard yn eistedd yn y sedd fawr yn gwrando arno’n darllen a’r dagrau’n powlio i lawr ei ruddiau ond a chanddo wên lydan ar ei wyneb yr un pryd.
“A dyna ddarlun perffaith o’r nofel ,” meddai John Ogwen. “Crio chwerthin hefyd y mae Un Nos Ola Leuad.”
Mae wedi bod yn bleser cael ail ymweld â’r nofel. Ei darllen eto o dan amylchiadau tra gwahanol y tro yma! A gweld mwy ynddi eto o wneud. Agoriad llygad oedd cael ymweld hefyd â Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad yng nghwmni J Elwyn Hughes a’i ymchwil. Dyna ein rhaglen ni. Pethe arbennig lle yr awn ar daith hefo John Ogwen a J Elwyn Hughes trwy strydoedd go iawn y nofel unigryw a gyhoeddwyd hanner canrif yn ôl.
Bydd yna benwythnos o ddathlu ar S4C yn agor hefo ‘Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad’ ar nos Wener y 25ain o Dachwedd.
blogiwr : Gwion Hallam








