Y beirniad bach 5 oed

Dydd Mercher, Gorffennaf 21, 2010, 16:24

Mewn sachliain a lludw dyma fi’n blogio unwaith eto o’r diwedd.  Rhyfyg fyddai meddwl am eiliad fod yna rai wedi gweld colli’r mwydro wythnosol.   Wedi bod allan yn ffilmio ydw i – wedi cael fy nghadael yn rhydd o’r swyddfa i grwydro. (Does yna ddim cyfrifiaduron yn y byd mawr tu allan?) Nawr fy mod i’n gaeth eto does na’n esgus. A fedra i ddim a defnyddio’r ffaith fod yna ddim byd mawr wedi digwydd fel esgus chwaith. Efallai fy mod i wedi  stopio i gael fy ngwynt ataf ond wnaeth Cymru a’i chreadigrwydd ddim gwneud.

Dyna i chi lwyddiant Elfyn Lewis yn un peth. A’r blog diwethaf yn ymateb cadarnhaol i’w arddangosfa Bylchau yng Nghwm Croesor gwych o beth oedd clywed iddo ennill gwobr Artist Cymreig y Flwyddyn.

(Safon y gwaith enillodd y wobr iddo – nid fod y beirniaid wedi darllen y blog!)

Ro’n i’n  Berlin ar y pryd pan ddaeth y neges drwodd ei fod wedi ennill. Nid dim ond brolio yw dweud hynny ond rhoi cyfle i ddangos llun y tŵr teledu anhygoel – y Fernsehturm - oedd wrth ymyl ein gwesty. Gweld y tŵr o bosib oedd uchafbwynt y daith i fi. (sori!)

Wnaetho ni ddim codi i’r top, er bod hynny’n bosib mewn lifft. Roedd hi’n ddigon trawiadol ei weld o bob ardal o’r ddinas yn pwyntio i’r awyr fel gwaith celf anfwriadol, modern. Wedi dweud hynny, perthyn i’r hen ddinas y mae’r concrit a’r metel sgleiniog wrth gwrs. Yn retro ei naws, yn perthyn i fyd Sputnik ac i wres brwydr dechnolegol y rhyfel oer.  Pleser nid gwaith oedd Berlin (ond rhwystr arall i’r blogio!) a drodd yn gyfle bach hefyd i ddathlu llwyddiant artist o Gymru mewn dinas gyffrous ei chelfyddyd a’i hanes – a’i chlybiau!

 Berlin yn sicr ymhlith y 100 o ddinasoedd i’w gweld cyn marw, llyfr John Davies am lefydd i’w gweld yng Nghymru cyn cicio’r bwced enillodd Gwobr Llyfr y Flwyddyn. Hen newyddion erbyn hyn, a hen ddadl yw’r un am gyfraniad allweddol Marian Delyth i’r gyfrol. Rhaid cyfaddef na fyddwn wedi dringo unrhyw dŵr i ddathlu canlyniad y gystadleuaeth yma eleni. Nid mod i’n gyndyn i longyfarch John Davies am ei lwyddiant. Ac nid y ‘ddadl’ am gyfraniad y ffotograffau i’r gyfrol sy’n oeri rhyw ychydig ar fy mrwdfrydedd i chwaith. Y ffaith syml i fi yw fod yna lyfrau eraill a gyhoeddwyd sydd ben ag ysgwydd uwcheben y gyfrol a enillodd. Fy marn bach i yw honno wrth gwrs. Nid yw’n tynnu oddi ar lwyddiant John Davies o gwbwl. Plesio’r beirniad oedd y gamp. Nid bodloni unigolyn crintachlyd (a snobyddlyd?) fel fi a wnaeth ddwli ar gyfrolau mwy dyfeisgar a mentrus fel Y Trydydd Peth gan Sian Melangell neu Y Dŵr gan Lloyd Jones. Ac wrth gwrs wnes i’m darllen y cwbwl o’r llyfrau a oedd yn gymwys i’w hystyied beth bynnag!  Felly taw pia hi – cnoi tafod – a llongyfarchiadau gwresog i John Davies. (a Marian Delyth.)

Un sydd ddim yn dal ei dafod o gwbwl – gan siarad yn blaen ac yn onest – yw Meic Povey.  Neu dyna sut y mae yn ei hunangofiant sydd newydd ei gyhoeddi gan Carreg Gwalch. Nesa Peth i Ddim yw teitl y llyfr, ond bydd rhaid i chi dalu £7.50 amdano! Nid bod hynny’n ddrud o gwbwl ac mae’n werth pob ceiniog.  Yn draddodiadol mae huangofiannau neu gofiannau wedi gwneud yn dda iawn yng nghystadleuaeth Gwobr Llyfr y Flwyddyn. Mae’n gynnar wrth gwrs, a barn y beirniaid fydd hi eto, ond bydd angen llyfrau difyr a gafaelgar i gadw Povey allan o’r deg uchaf flwyddyn nesaf.

Gyda llaw, efallai i chi ddarllen mai Hamish – mab pump oed Elfyn Lewis – wnaeth ddewis pa lun ddylai ei dad ei ddanfon i’r gystadleuaeth. Hwnnw oedd y llun enillodd y brif wobr iddo wrth gwrs. Sy’n profi beth?  Dim byd am wn i. Bod plant gystal â beirniaid? Mai chwarae plant yw celfyddyd yn y bôn?

blogiwr: Gwion Hallam

Gwneud sylw