Neidio at y cynnwys

S4C

Ymgynghoriad Plant

Cefndir yr Ymgynghoriad

Ym Mai 2007 cyhoeddodd Awdurdod S4C ymgynghoriad - Gwasanaethu Plant yn y Dyfodol Digidol - yn holi barn y cyhoedd a rhanddalwyr allweddol ynghylch cynigion i lansio sianel deledu gwasanaeth cyhoeddus Gymraeg newydd i blant.

Mae ein gwaith ymchwil yn dangos bod plant wedi newid y ffordd y maent yn manteisio ar y cyfryngau clyweledol mewn ffordd ddramatig. Byddai gwasanaeth pwrpasol yn galluogi gwasanaethau Cymraeg i gystadlu â sianelau a chyfryngau eraill sy’n rhai pwrpasol i blant a’r rhai a ddewisir ganddynt gyntaf ar hyn o bryd. Y nod yw sicrhau nad ydym yn colli cenhedlaeth o blant y mae’n amlwg bod ganddynt deimladau angerddol tuag at eu diwylliant, ond sydd hefyd yn rhan o genhedlaeth ehangach sydd â chryn grebwyll am y cyfryngau, ac sydd â disgwyliadau uchel ynghylch pryd a sut y maent yn dymuno manteisio ar y cyfryngau.

Gwahoddwyd ymatebion ar ffurflen ymgynghori ar lein, ar e-bost ac yn y post. Paratowyd holiadur ymgynghorol ar gyfer plant a phobl ifanc o dan 16 oed. Pwrpas yr holiadur oedd cael barn y gynulleidfa darged ar egwyddor sefydlu sianel deledu Gymraeg newydd a’u dymuniadau ar gyfer oriau darlledu gwasanaeth o’r fath.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn pob ymateb, gan blant ac oedolion fel ei gilydd, oedd 20 Gorffennaf 2007.

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales