Neidio at y cynnwys

S4C

Popeth ar Ffilm

Felinfach

Felinfach

Bydd Ifor ap Glyn yn teithio i Felinfach i ddangos ffilm archif o'r ardal, cyn arwain criw o'r ffermwyr ifanc lleol i greu ffilm newydd.

Mwy am raglen Felinfach

Brynsiencyn

Brynsiencyn

Bydd Ifor ap Glyn yn teithio i Frynsiencyn ar Ynys Môn ble bydd yn dangos ffilm archif o gêm bêl-droed rhwng Brynsiencyn a Dwyran yn yr 1950au. Yna bydd yn arwain criw o drigolion lleol i greu ffilm newydd am bêl-droed!

Mwy am raglen Brynsiencyn

Rhydaman

Rhydaman

Wrth fynd ati i greu ffilm newydd yn Nyffryn Aman, mi fydd Ifor yn gofyn barn rhai o'r trigolion lleol ynghylch eu llwyddiannau, ac yn gofyn a oedd gadael yr ardal yn allweddol i'r llwyddiannau hynny.

Mwy am raglen Rhydaman

Llangollen

Llangollen

Bydd Ifor ap Glyn yn Llangollen yn dangos ffilm arall o'r archif o'r enw 'Cae Felin Laundry'. Ar gyfer creu ffilm newydd yn yr ardal bydd Eleri Jones yn holi ei mam a'i nain a fu'n gweithio yn y golchdy am eu gwaith a sut mae gwneud golch wedi newid dros y blynyddoedd.

Mwy am raglen Llangollen

Senghenydd

Senghenydd

Bydd Ifor ap Glyn yn Senghenydd yn dangos ffilm o'r enw 'Senghenydd: Portrait of a Mining Town' i'r trigolion lleol. Ar gyfer creu ffilm newydd am yr ardal, mi fydd y camerâu yn dilyn Helen Price wrth iddi olrhain hanes brawd ei mamgu a laddwyd yn nhanchwa 1913.

Mwy am raglen Senghenydd

Llŷn ac Eifionydd

Llŷn ac Eifionydd

Mi fydd Ifor ap Glyn yn ardal Llyn ac Eifionydd yn dangos ffilm archif o'r enw 'Yr Etifeddiaeth' i griw o drigolion lleol. Ar gyfer creu ffilm newydd ar y thema hon mi fydd Ifor yn gofyn i Natacha Roberts fyfyrio ar beth mae 'etifeddiaeth' yn ei olygu iddi hi a hithau newydd symud i Borthmadog o Bangkok.

Mwy am raglen Llŷn ac Eifionydd

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales