Popeth ar Ffilm
Felinfach
Roedd y ffilm wreiddiol yn fath o brosbectws i'r coleg. Roedd yn dangos meibion ffermydd yn dysgu sgiliau amaethyddol tra bod y merched yn dysgu sgiliau cegin ac yn y blaen.
Yn y ffilm newydd, mae Eifiona Davies o Glwb Ffermwyr Ifainc Felinfach yn myfyrio ar beth yw’r disgwyliadau i feibion a merched ffermydd heddiw. Faint mae pethau wedi newid?
Y Ffilm gyfan
Felinfach
Ffilm wedi ei hysbrydoli gan:
Proficiency Test Work at the Farmers’ Education Centre, Felinfach
(diwedd y 1950au:
cyfarwyddwr anhysbys)
Hyd y ffilm: 9 munud 56 eiliad
Felin-fach - ddoe a heddiw
Sut le oedd Felin-fach hanner can mlynedd yn ôl a sut mae'r ardal wedi newid ers hynny?
Dyma'r cwestiynau bydd y bardd a'r cyflwynydd Ifor ap Glyn yn holi mewn cyfres newydd ar S4C. Yn Popeth ar Ffilm bydd Ifor yn dewis ffilmiau archif am wahanol ardaloedd o Gymru, cyn bwrw ati i greu ffilmiau newydd sy'n plethu rhai o themâu'r deunydd gwreiddiol gydag elfennau cyfoes.
Bydd ffermwyr ifanc, Eifiona Davies o Fferm Penlan yn Nyffryn Aeron ac Emyr Evans o Fferm Penlanlas Isaf, yn helpu Ifor i wneud ffilm newydd am eu cymuned.
Y man cychwyn yw ffilm hyfforddi o'r 1950au o'r hen Goleg Ceredigion. Mae'r gwahaniaeth rhwng y cyrsiau a gynigiwyd i ddynion a menywod yn y coleg yn amlwg yn y ffilm, gyda sgiliau ffermio ar gael i'r dynion a sgiliau cartref yn cael eu cynnig i'r menywod.
Bydd Eifiona ac Emyr yn edrych ar y ffordd mae rôl dynion a menywod yn y byd amaethyddol wedi newid ers y cyfnod hwnnw.
Meddai Eifiona, "Dros y blynyddoedd, dynion sydd wedi chwarae'r rôl flaenllaw mewn amaethyddiaeth a dwi ddim yn credu y bydd hyn yn newid. Dwi ddim yn credu byddai'r dynion yn hapus o weld y mart yn llawn menywod! Heddiw hefyd, mae gwragedd ffermwyr yn dueddol o fynd allan i weithio ac yn dilyn gyrfaoedd i ffwrdd o'r fferm."
Bydd y gyfres, sy'n dilyn ôl-troed Popeth yn Gymraeg a Popeth yn Wyrdd, hefyd yn cynnwys hen ffilmiau am Rydaman, Llangollen, Senghennydd, Pen Llŷn a Brynsiencyn.
Eglura Ifor, "Pwrpas y gyfres yw creu ffilmiau newydd sy'n dangos bywyd cyfoes yn yr un modd y llwyddodd y ffilmiau gwreiddiol i bortreadu bywyd ddoe. Y gobaith yw y bydd y cyfranwyr i bob ffilm yn bod mor rhydd ac agored ag y dymunant, er mwyn creu braslun o heddiw, fel record i'r dyfodol."
