Popeth ar Ffilm
Brynsiencyn
Roedd y ffilm wreiddiol yn un o nifer a dynnwyd ar ddechrau'r pumdegau gan y meddyg lleol. Ei ddileit oedd cofnodi pobl gyffredin y rhan honno o Ynys Môn wrth iddynt weithio a chwarae.
Nid oes tîm pêl-droed ym Mrynsiencyn bellach, ond mae'r diddordeb mewn pêl-droed mor fyw ag erioed, fel y dengys y ffilm newydd. Gwelwn ymdrechion Gavin, Richard a Ieuan wrth iddyn nhw geisio atgyfodi tîm y pentref.
Y Ffilm gyfan
Brynsiencyn
Ffilm wedi ei hysbrydoli gan:
Bryn vs. Dwyran Ffwtbol
(tua 1949/50:
cyfarwyddwr Dr. John Glyn Jones)
Hyd y ffilm: 14 munud 30 eiliad
Ail-greu Brynsiencyn FC a'i gadw ar ffilm
Pa mor llwyddiannus oedd tîm pêl-droed Brynsiencyn hanner can mlynedd yn ôl ac a yw pêl-droed yn medru dod â chymdeithas at ei gilydd fel yn yr hen ddyddiau?
Dyma rai o'r cwestiynau bydd y bardd a'r cyflwynydd Ifor ap Glyn yn holi mewn cyfres newydd ar S4C. Yn Popeth ar Ffilm bydd Ifor yn dewis ffilmiau archif am wahanol ardaloedd o Gymru, cyn bwrw ati i greu ffilmiau newydd sy'n plethu rhai o themâu'r deunydd gwreiddiol gydag elfennau cyfoes.
Man cychwyn y rhaglen yw ffilm a gynhyrchwyd tua 1949-1950. Mae'r ffilm yn dangos gêm rhwng Brynsiencyn a'u cymdogion, Dwyran, ac mae'n astudiaeth gan feddyg lleol, John Glyn Jones, o'r dyrfa mewn gornest leol.
Mae Ifor yn darganfod bod y ddau dîm wedi'u diddymu erbyn hyn, ond mae tîm newydd yn cael ei sefydlu ym Mrynsiencyn i chwarae gêm arbennig yn erbyn Niwbwrch. Cawn weld sut mae gemau pêl-droed lleol yn gorfod cystadlu yn erbyn gemau ar y teledu a'r atyniad o dîmau Uwch Gynghrair Lloegr.
Eglura Ifor, "Pwrpas y gyfres yw creu ffilmiau newydd sy'n dangos bywyd cyfoes yn yr un modd y llwyddodd y ffilmiau gwreiddiol i bortreadu bywyd ddoe. Y gobaith yw y bydd y cyfranwyr i bob ffilm yn bod mor rhydd ac agored ag y dymunant, er mwyn creu braslun o heddiw, fel record i'r dyfodol."
