Popeth ar Ffilm
Rhydaman
Comisiynwyd y ffilm wreiddiol fel rhan o Ŵyl Prydain i ddathlu diwylliannau'r ynysoedd hyn ar ôl blynyddoedd hir y rhyfel. Hanes y bardd a'r gofalwr ysgol, David Rees Griffiths, a geir yn y ffilm, gyda David yn chwarae ef ei hun. Awgrymir yn y ffilm wreiddiol fod David wedi "methu", am na lwyddodd i gael addysg ffurfiol a gadael yr ardal fel ei frawd, yr A.S. Jim Griffiths.
Yn y ffilm newydd, mae Tom Hamer, Sara Richards, Mererid Davies a Juliana Hughes yn myfyrio ar beth yw llwyddiant iddyn nhw; ac ai gadael neu aros yw'r allwedd i hynny?
Y Ffilm gyfan
Rhydaman
Ffilm wedi ei hysbrydoli gan:
David
(1951: cyfarwyddwr Paul Dickson)
Hyd y ffilm: 10 munud 50 eiliad
Ieuenctid Rhydaman – oes rhaid gadael y dyffryn er mwyn llwyddo?
Sut ddyfodol sydd i ieuenctid Dyffryn Aman ac a oes yn rhaid iddynt symud i ffwrdd er mwyn llwyddo mewn bywyd?
Dyma rai o'r cwestiynau bydd y bardd a'r cyflwynydd Ifor ap Glyn yn holi.
Man cychwyn Ifor yw'r ffilm 'David' a wnaethpwyd yn 1951. Mae'r ffilm yn portreadu'r bardd a'r cyn löwr, David Rees Griffiths yn ei flynyddoedd hŷn fel gofalwr hen Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman. Mae'r syniad bod yn rhaid symud i ffwrdd er mwyn llwyddo mewn bywyd - bod David wedi 'methu' rywsut wrth aros yn ei filltir sgwâr - yn cael ei gymryd yn ganiataol yn y ffilm.
Mae Ifor yn cael help Tom Hamer, disgybl yn Ysgol Dyffryn Aman, a Juliana Hughes, sy'n gweithio i gorff Cymunedau yn Gyntaf, i gynhyrchu ffilm newydd, gan ddilyn themâu'r ffilm wreiddiol.
Mae Tom a'i gyd-ddisgyblion newydd adael ysgol ac maent o'r farn mae oddi cartref y bydd eu dyfodol. Mae'r disgyblion chweched dosbarth yn gytûn yn eu dymuniad i brofi bywyd i ffwrdd o Rydaman, i weld beth sydd gan y byd i'w gynnig, gan efallai dychwelyd i'r dre pan fyddant yn hyn. Ar y llaw arall, mae Juliana wedi byw yn yr ardal ar hyd ei hoes ac mae'n amddiffyn ei phenderfyniad i aros.
"Rwy'n credu bod pobl yn ystyried symud i ffwrdd am eu bod yn teimlo nad oes unrhyw beth ar gael nôl yma.
"Mae'n bwysig i mi gael rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymdeithas lle dwi'n byw," meddai Juliana.
Bydd y gyfres, sy'n dilyn ôl-troed Popeth yn Gymraeg a Popeth yn Wyrdd, hefyd yn cynnwys hen ffilmiau am Langollen, Senghenydd a Phen Llŷn.
Eglura Ifor, "Pwrpas y gyfres yw creu ffilmiau newydd sy'n dangos bywyd cyfoes yn yr un modd y llwyddodd y ffilmiau gwreiddiol i bortreadu bywyd ddoe. Y gobaith yw y bydd y cyfranwyr i bob ffilm yn bod mor rhydd ac agored ag y dymunant, er mwyn creu braslun o heddiw, fel record i'r dyfodol."
