Neidio at y cynnwys

S4C

Popeth ar Ffilm

Llŷn ac Eifionydd

Llŷn ac Eifionydd

Dewisodd John Roberts Williams edrych ar ddiwylliant y Gymru wledig yn Eifionydd drwy lygaid un o'r plant cadw, neu'r faciwîs. Hogyn tywyll ei groen oedd Freddie Grant a gafodd ei gymathu'n llwyr gan y gymdeithas Gymraeg yn ystod y rhyfel.

Yn y ffilm newydd, gofynnwn beth yw'r "etifeddiaeth" heddiw i Natacha wyth oed sydd newydd symud i Borthmadog o Bangkok. Beth all hi ei ddysgu gan Séverine a Salma sy'n byw yn yr ardal yn barod? Mae Séverine wedi symud o Réunion i Nantmor ac mae Salma yn Bangladeshi sydd wedi ei magu yn Abererch.

Y Ffilm gyfan

Llŷn ac Eifionydd

Ffilm wedi ei hysbrydoli gan:
Yr Etifeddiaeth (1949: cyfarwyddwr John Roberts Williams)

Hyd y ffilm: 15 munud 54 eiliad

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales