PAM?

Un dyn, un iaith, un wlad - un sialens. Ifor ap Glyn sy'n egluro beth a'i hysgogodd i gychwyn ar daith o gwmpas Cymru gan geisio gwneud Popeth yn Gymraeg...

“Mae hi'n anodd dweud lle'n union y dechreuodd y syniad ar gyfer yr arbrawf yma - nôl yn Llundain pan o'n i'n tyfu i fyny am wn i!

 

Y Cymry Rhydd

llun o Robat GruffyddAm Robat Gruffudd
Nofelydd a sefydlydd Gwasg y Lolfa yw Robat Gruffudd. Fe'i magwyd yn Abertawe a derbyniodd addysg bellach yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor. Ar ôl graddio sefydlodd y wasg enwog hon yn Nhalybont

Enillodd ei nofel Wobr Goffa Daniel Owen yn 1986, ac roedd Crac Cymraeg ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 1996.

Ai chi a arweiniodd ymgyrch gwneud Popeth yn Gymraeg nôl yn saithdegau?
Ie, Gwilym Tudur a minne - Gwilym sy'n cadw Siop y Pethe yn Aberystwyth 'ma. Benderfynon ni gynnal arbrawf byti tri neu whech mis o wneud popeth yn Gymraeg. 'Y Cymry Rhydd' oedd ein henw ni ar gyfer yr ymgyrch.

Wnaethoch chi lwyddo i gwblhau'r chwe mis?
O iyffarn do - o’dd e'n anodd! Serch 'ny oedden ni'n cyfieithu'n hunen am yn ail frawddeg weithie, pan o'dd raid. Dweud brawddeg yn Gymraeg gyntaf, wedyn ei hail-adrodd yn Saesneg - yn enwedig mewn sefyllfa busnes. O'dd 'ny'n gallu bod yn anodd. Wy'n cofio mynd lawr i Docs Casnewydd unweth, isie gwerthu peiriant cysodi chi'mbo, a siarad Cymraeg lawr yn fan'ny. Ond o'dd raid i ni gyfaddawdu bryd 'ny ac ailadrodd y'n hunen yn Saesneg. Bu i ni roi lan ar ôl byti chwe mis.

Pam benderfynoch chi ymgyrchu?
Wel yn gyntaf, oedden ni'n teimlo yn y bôn bod gyda ni gwbl hawl i fyw ein bywydau yn gyfangwbl trwy'r Gymraeg, yn union fel y Saeson a'r Ffrancwyr a chym'int o wledydd er'ill. Ac yn ail, o'dd e'n ffordd o wthio achos yr iaith ymlaen. Tase mwy ohonon ni wedi gwneud hyn, yna byddai'n sicr o fod wedi effeithio ar y polisi iaith sy' 'da ni heddiw.

Beth yn eich tyb chi, oedd yr agwedd anoddaf o'r dasg?
Ro'dd hi'n arbennig o anodd mewn sefyllfa gymdeithasol - yn enwedig a finne di cael 'y nghodi lan yn Abertawe. 'Wy'n cofio ffrind i mi, Cymro di-Gymraeg o Abertawe yn dod lan i 'ngweld i. Stan Addicot o'dd i enw fe, o'dd o'n rheolwr ar dim rygbi'r All Whites. A finne'n gorfod egluro iddo fe'r hyn oeddwn i'n ei wneud. Sa'i'n siwr os o'dd e'n deall yn llwyr, rhyw edrych arna i fymryn yn od wna'th e! Ond o'dd hynny'n anodd wy'n cofio, yn enwedig ag ynte wedi dod yr holl ffordd lan i ngweld i, a finne'n pallu siarad dag e.

sut ymateb oeddech chi'n ei gael ar y cyfan?
Ar y cyfan, oedden ni'n cael mwy o barch nag o amharch. Wy'n credu fod y rhan fwyaf o bobl yn galler sylweddoli pa mor anodd o'dd hi fel tasg. Wy'n dal yn credu fod y syniad, yn ei hanfod, yn un da, ac yn un gwerth ei wneud.