20fed o Chwefror 2005
Rhyw feddyliau cyn cychwyn allan i ffilmio’r rhaglen gynta yng Ngwent...
Wrth gael fy magu yn Llundain, roedd dyn yn tueddu gwneud yn fawr o'i gyfle i siarad Cymraeg, ac mae'r tueddiad yna wedi para i ryw raddau wedi i mi symud nôl i Gymru. Buan y dysgais i nad ydi dechra pob sgwrs yn Gymraeg yn helpu chdi gael dy syrfio mewn pyb yng Nghaerdydd:
- "Peint o gwrw plîs"
- "You Polish?!"
Ond rhaid trio, does? Tybed ai ymateb fel'na ga'i fory? Dros y blynyddoedd, dwi wedi datblygu "radar" am le ddylai rhywun mentro dechrau sgwrs yn Gymraeg bob tro. Er enghraifft: Caerdydd - na. Y Rhyl - na. Roedd Dinbych ar y llaw arall, lle buom ni'n byw ar ôl priodi, yn anodd yn hynny o beth. Yn ddigon Cymraeg i beri i rywun ddygnu mlaen i drio, yn ddigon Saesneg i beri llawer iawn o rwystredigaeth wrth wneud.
Ond fory dwi'n diffodd y "radar"...
Wedi dweud hynny, mae gwahaniaeth rhwng dechrau sgwrs, a mynnu parhau sgwrs yn Gymraeg. ‘Da ni'n nerfus fel Cymry dwyieithog... ond petaen ni'n mynnu siarad Cymraeg, base rhaid i bobl eraill yn ein cymunedau ddysgu - dyna sut mae gennym Baums a Stuhlfelders a Clossiaid Cymraeg. Nid caredigion yr iaith mo'u cyndadau, jest pobl gyffredin oedd am ffitio mewn, oedd yn gorfod ffitio mewn.
Ydi'r reddf yna dal ynom ni? Drwy brotestio am yr allanolion - statws swyddogol, arwyddion, ffurflenni ac ati - ydan ni wedi colli rhyw elfen o'r cythraul, y grym ewyllys, sy'n gwneud i bobl fynnu siarad Cymraeg? Dargyfeirio'n hegni mewn i'r allanolion?
Ond dwi'm isio colbio pobol hefo'r Gymraeg chwaith - gwneud y peth yn gyfrwng “ni a nhw”. Cyfrwng "ni" ydi o - eiddo pawb yng Nghymru, p'un ai dyn nhw'n ei medru hi ai peidio.
Be wna'i fory felly? Mae rhyw nerfusrwydd yn dod drosta'i mwya sydyn a minna'n mynd allan fory am y tro cynta i drio gwneud popeth yn Gymraeg. Dwi'n teimlo fel hogyn o Lundain eto, ar blatfform Euston, yn barod i fynd ar fy ngwyliau... Fydd pobol yn gas? Siawns ga'i'r un parch a thŵrist o leia? A tydi rheina ddim bob tro'n medru Saesneg. Cawn weld...
21ain o Chwefror 2005
Dechreuon ni yn Nhafarn Rhyd y Blew yn Beaufort, Blaenau Gwent: enw hyfryd iawn (dwi'n siwr fod Gwent a Morgannwg wedi dal gafael ar fwy o enwau Cymraeg ar eu tafarnau nag yn y Gogledd a'r Gorllewin - pam tybed?)
Yn ôl y stori, tafarn ar lôn y goets fawr oedd hon gynt, a dyfroedd y rhyd yn golchi boliau’r ceffylau wrth iddynt groesi. Pam fod hynny'n peri iddyn nhw fwrw eu blew fedra'i ddim dweud. Mae'n swnio mor annhebygol â'r stori hon a glywais flynyddoedd yn ôl mewn tafarn yn Yr Wyddgrug pan sylwodd un o'r yfwyr lleol mod i a'm ffrind yn siarad Cymraeg.
"Daniel Owen used to drink in this pub you know. The chapel deacons were dead against it and they used to come round and check. But that's why they wore top hats in those days so if the deacons came in, the men in the pubs would put them over their pints and pretend they were praying. Now you've seen Daniel Owen's statue in town? He's only got a bowler hat - but that's because he used to drink shorts."
Be sy'n arwyddocaol gyda'r ddwy stori efallai yw'r ffaith fod pobl yn dal i deimlo perchnogaeth dros bethau'r iaith, hyd yn oed os ydi'r union ystyr wedi cilio.
Yn Rhyd y Blew, cawsom bastai bob un, a'i fwyta wrth ymyl y bwrdd pool mewn cadeiriau chrome. Wrth godi peint, sylwais fod dau forgrugyn yn cerdded ar y bar! Edrychais ar y ferch tu ôl i'r bar yn syn; cododd ei sgwyddau. Roedd hi a gweddill y staff tu ôl i'r bar i gyd yn gwisgo du. Roedd te angladd drwodd yn y bar mawr a diaspora'r pentre’ wedi dychwelyd am ddiwrnod, yn symffoni o acenion gwahanol, er mwyn talu'r gymwynas ola’. Ar ddiwrnod fel yna, pa ots am forgrug?
Ar ôl dechreuad swreal braidd, braf cofnodi fod ymateb pobl yn lot fwy positif yn Rhymni nag o’n i wedi meddwl - gwych, a dweud y gwir. Addo'n dda at weddill y daith.
22ain o Chwefror 2005
Yn eglwys Llanofer mae enwau'r ffermydd lleol i'w gweld ar y seti, a monogram yr Arglwyddes ar y sêt nesa at y drws - yn y cefn. Roedd yn well ganddi fod yn fanno er mwyn gweld yn haws os oedd unrhyw un o'i thenantiaid heb ddod i'r eglwys!
Cymaint oedd sêl Ledi Llanofer dros y Gymraeg, mynnodd roi enwau Cymraeg ar dai ei thenantiaid i gyd. Mae'r enwau wedi parhau, ond mae'r ynganiad, ysywaeth, wedi newid. Roedd dynes yn trefnu blodau yn yr eglwys pan alwes i heibio; roedd hi'n byw yn un o dai'r stad, meddai hi, yn "Ti kebby do" Amneidiais yn gwrtais o ddiddeall, nes pasio Tŷ'r Cerbydwr nes ymlaen!
Mae Arglwyddes Llanofer yn bennaf adnabyddus am ei hymdrechion dros y Gymraeg a'n diwylliant traddodiadol ni, ond roedd hi hefyd yn dipyn o deyrn ar faterion dirwest. Pan welodd hi feic ei garddwr tu allan i dafarn leol, fe gafodd ei alw i'w phresenoldeb a'i gyhuddo'n syth. Gwadodd yntau iddo fod yn y dafarn. Ond beth am y beic tu allan? Protestiodd yntau nad oedd hynny'n profi dim; ond i'r Arglwyddes, roedd yn ddigon i'w ddamnio, a chafodd y garddwr ei geryddu'n llym.
Y noson wedyn, i brofi ei bwynt, gadawodd y garddwr
23ain o Chwefror 2005
Y Steddfod a drefnais i yn Y Fenni wedi mynd yn iawn, dwi'n meddwl - o leia daeth â phobl ynghŷd a rhoi cyfle iddyn nhw siarad Cymraeg, a dyna oedd y prif bwrpas am wn i. Er enghraifft, y ddwy ddynes o ardal Caernarfon sydd wedi bod yn byw yn y Fenni ers blynyddoedd a heb gyfarfod â'i gilydd cyn heno!
Braint pobl y gorllewin yw mwynhau iaith wedi'i hangori mewn profiad cymunedol - swn plant yn chwara ar y stryd a ballu. Ond mae'r serch at yr iaith yn yr ardal yma yn danbaid gan sawl un...