2ail o Fawrth 2005
Bues i'n Llanboidy heddiw.
Wedi holi yn y post tybed oedd ‘na felin yn dal i fod yn y pentre, dyma landio amser swper yn Felin Ganol a Tom Griffiths yn codi o'r bwrdd bwyd mewn cegin o'r oes o'r blaen. Hanner disgwyl gweld calendar o 1951 ar y wal! Dyn hyfryd, croesawgar.
Dangos llun y "tair morwyn" iddo, a dynnwyd yn Llanboidy gan John Thomas yn 1885:
- "Tybed fyddech chi'n nabod y tair yma 'te? Cofiwch chi, bydden nhw'n hen iawn erbyn i chi nabod nhw."
Daeth gwên i'w wyneb:
- "Mae'r rhai hen yn fwy saff ‘da fi - chi'n siarad â thipyn o dderyn fan hyn!"
3ydd o Fawrth 2005
Galw yn nhafarn Bessie yng Nghwm Gwaun ar y ffordd nôl i'r gwesty. Codi peint i finnau a'r criw. Bessie wedyn yn mynd nôl i'w sêt wrth ochr y tân lle roedd hi'n siarad â gŵr lleol. Edrychodd i'n cyfeiriad cyn dweud yn gyfrinachol wrth hwnnw,
"Mae'r pedwar o'nyn nhw'n siarad Cymrag - seno hynna'n digwydd yn amal"
Pan aeth hi allan i'r cefn yn ddiweddarach, dyma yntau'n troi atom ni am sgwrs.
Sibrydodd y stori hon am wraig fferm leol a'i gŵr, yn gweiddi ar draws y stryd yn Abergwaun, fel 'sen nhw naill pen y clos gartre, a phawb o ganlyniad yn clywed y cyfan.
- "Alla'i ga'l arian i byrnu sgitsie newi?"
- "Na chei"
- "Alla'i ga'l arian i byrnu sgitsie newi?!"
- "Wi di gweud "na"”
- "Na fe te - ond cofia di - ma isie pedoli cyn marchogeth"!!
Dwi'n licio sir Benfro. Mae golau rhyfeddol yma a phobl gwreiddiol iawn. Yn Nhŷ Ddewi dwi wedi gweld poster yn hysbysebu gwasanaeth rhywun sy'n cyfri ei hun “yn fwy na’r Ymherodraeth Brydeinig – a Dewi Sant" Does bosib!
Ac yn Arberth gwelais yr hysbyseb anghyffredin hon, yn cynnig gwasanaeth Mamgu Bouncy Castles . Arhoswch eiliad hefo'r ddelwedd ryfeddol honno
Efallai nad yw'n cyfieithu. Sy'n f'atgoffa o stori am beryglon cyfieithu er nad oes wnelo hi ddim â Sir Benfro:
Roedd Geoffrey Howe yn Rwsia ryw dro yn siarad mewn cinio swyddogol gyda chymorth cyfieithydd. Yn ystod ei araith, dywedodd:
"The spirit is willing but the flesh is weak", ond cafodd ei gyfieithu fel hyn:
"Mae'r fodca yn o lew, ond mae'r cig heb ei gwcio'n iawn."