Gogledd Ddwyrain Cymru

24ain o Fai 2005

picture from the programmeBysgio ar strydoedd Wrecsam heddiw - hefo cerddi!
Y gogledd-ddwyrain yw’r ardal dan sylw ar gyfer y drydedd raglen.

Teimlo fymryn o chwithdod wrth gyflwyno cerddi yn gwbl ddi-gyd-destun. Fel arfer mae rhywun yn gwneud hyn fel rhan o noson o ryw fath ac mae cyfle i ddweud rhywbeth fydd, gobeithio, yn helpu i'w gwneud yn berthnasol. Ond wrth fysgio, mae'r gynulleidfa yn symudol, yn newid drwy'r amser; rhaid hoelio eu sylw heb ragymadroddi. Newidiais ambell i lein mewn ymgais i roi blas lleol e.e. “aethom i Wrecsam am drip”, ond drwy'r amser on i'n ymwybodol "be sydd â wnelo'r gerdd ‘ma a chdi?" Cerddi i non-consenting adults!

Serch hynny, dysgais gwpwl o driciau bysgar yn fuan.
Mae pafin gul yn well nag un llydan - mae'n anos i bobl basio o'r tu arall heibio; maen nhw'n gorfod dod yn nes. Dyma un sylw:

- "I've lived twenty years in Caia Park where the riots were. I thought you were a beggar, but you're too well dressed."

picture from the programmePeint yn yr Horse and Jockey wedyn - y tro dwytha imi fod yno gyda chriw o Gymry eraill a'r bar yn wag heblaw amdanom ni, dywedodd y ddynes tu ôl i'r bar ein bod ni'n "rude" yn siarad Cymraeg o'i blaen hi. "That's really ignorant". Nid siarad Cymraeg hefo hi cofiwch, dim ond yn ei gŵydd hi. Bellach mae'r lle wedi newid dwylo, a phlant y tafarnwr mewn ysgol Gymraeg.

Da.

Bysgio tu allan i'r Borras Park Fish Bar wedyn - sy'n eiddo i George Koumas, cefnder Jason y peldroediwr rhyngwladol. Daeth torf o blant o nghwmpas i'n syth ac roedden nhw'n wariars go iawn; ddim isio clywed cerddi ond yn fodlon dangos faint o Gymraeg on nhw'n ei wybod: Yndw, nagdw, cau'r drws, he's calling me pen pidyn - what's that mean?

When's this going out?
Mis Tachwedd.
November?

Sut mae?
Da iawn.

picture from the programmeOnd doedd ganddyn nhw ddim llawer o fynedd gwrando ar gerddi.
"You're in the wrong part of Wales" meddai'r gŵr ifanc hefo'i ben wedi'i siafio "There's lots of Welsh in Cardiff… Or Bala… or Holyhead…"

"Can't you speak English?" meddai un arall.
"Dwi'n dallt Saesneg ond 'mond yn siarad Cymraeg, meddai fi, gan arwyddo "dallt" a "siarad" drwy bwyntio at fy nghlust ac yna at fy ngheg.

"I can do that as well," meddai un gan ddynwared y stumiau (clust, clust) "??!!...Off" (ceg, ceg) "You...??!!...
So are you swearing at us then?"
"Nagdw"
"Oh"

Diolchais mod i'n fwy na fo, a'i fod o'n fodlon fy nerbyn ar fy ngair!

Roedd saith geiniog yn yr het. Roedd hi'n amser ffarwelio a symud ymlaen.

26ain o Fai 2005

picture from the programmeMae cyfrifoldeb yn pwyso'n drwm arna'i i sicrhau fod pobl yn fy neall a ddim yn cael eu diflasu, na'u hypsetio; hynny yw, trio creu sefyllfa lle maen nhw'n fodlon bod yn amyneddgar.

Difyr felly oedd sylw y ddynes yn siop Caerwys heddiw, wrth y dyn camera ar ôl ffilmio:

"He was very patient with us, wasn't he?"

A minnau'n teimlo mai hi oedd wedi bod yn amyneddgar hefo fi! Ond efallai mai hi sy'n iawn. Wedi sôn am fy nghyfrifoldebau i, beth am y gyfrifoldeb sydd ar bob dinesydd o Gymro neu Gymraes i drio deall? Oes rhaid i ddwyieithrwydd fod yn stryd unffordd? Da iawn chi, Margaret! A diolch am y bechdan ham hyfryd!

27ain o Fai 2005

picture from the programmeCinio yn nhafarn y Fox, Croesoswallt heddiw. Wn i ddim a oedd gan Rhys Cain "local" pan oedd o'n byw 'ma, ond mae'r dafarn hon yn ddigon hen iddo fod wedi yfed yma. Yn addas ddigon, roedd 'na gerdd yn cael ei darllen ar y radio pan ddaethon ni mewn; cychwynnodd hefo'r llinell anfarwol "shag and brag if you will". Roedd hyn yn amlwg yn rhyw fath o thema ar gyfer y diwrnod, achos yna clywais Jeremy Vine yn dweud "is it posible that your penis is so large that there's not enough blood in your body to make it hard?" Wir yr, ar fy marw! A hynny yn ei lais blin jest-atebwch-y-cwestiwn, Brif Weinidog. Roedd yn ddigon i roi dyn off ei sosej.

Nid y rhaglen radio oedd yr unig brofiad od i ni gael yn "’Syswallt" - wrth gerdded o gwmpas, dyma ddechra dod i'r casgliad fod y dref yn llawn pobl od…

1. Dyn â barf gafr wen, yn cerdded heibio gan ddweud "ah!" yn uchel bob yn ail gam, druan ag o.

2. - ‘Are you going back to your van?’
- ‘Sori?’
- ‘I saw you earlier.’
- ‘Dwi'm yn meddwl’
- ‘Can I ask you one question then?’
- ‘Iawn.’
- ‘You know presenters, when they're filming, do they put on a false personality, or is that how they really are?’

3. ‘What's there to film here then? You should go to the well. It dates back to 1963 you know, and all the people of the town used to go there to wash the bacteria off their hands.’

picture from the programmeTipyn mwy difyr oedd y Cymro ddes i ar ei draws yng nghanolfan groeso Croesoswallt. Mae'r dref yn rhan o Loegr ers 1536, ond parhaodd gwasanaethau Cymraeg yn eglwys y plwy tan 1814, ac mae "’Syswallt" dal yn dre farchnad i lawer o ffermwyr o gwmwd Cynllaith dros y ffin. Mae llawer o feirdd wedi byw yn y dre neu ganu mawl iddi, gan gynnwys Rhys Cain wrth gwrs.

Roedd William Morgan, cyfieithydd y Beibl yn ficar Croesoswallt rhwng 1599-1602 ac felly'n gymydog i Rhys. ‘Sgwennodd gywydd ar ei ran i ddiolch am anrheg o wyddau gan ficar Abergele - ond roedd y gwyddau mor ffyrnig, meddai Rhys Cain yn gellweirus, mi oedden nhw wedi lladd y dofednod oedd ganddo yn barod, a'i filgi hefyd!

"Dyna afrad ar adar, dyna bla gwyllt dan blu gwâr!"

picture from the programmeRoedd gan Rhys Cain dŷ ar stryd Wylyw (wedi'i rentio iddo gan weddw ei gyn-athro barddol Wiliam Llŷn oedd hefyd yn byw yng Nghroesoswallt) - y rhent oedd ugain swllt y flwyddyn a rhosyn coch... Nid yw'n hysbys bellach lle yn union oedd y tŷ; byddai'n braf meddwl ei fod o yng nghyffiniau'r dafarn ar y stryd sydd wedi'i enwi ar ôl bardd mwy diweddar o'r dre, y Wilfred Owen. Ond trwy gyd-ddigwyddiad arall, ar yr un stryd mae'na decawê Bangladeshi o'r enw Red Rose...