Ceredigion i Lundain

14eg o Fehefin 2005

Dechrau siarad hefo tafarnwr y Llew Du yn y Bont, dyn o Gernyw, ac yn fuan aethon ni i gors o ddiffyg deall. "I've only got business Welsh" meddai, sef rhyw chydig o eiriau ymarferol i ddangos ewyllys da. "Pum punt os gwelwch yn dda" ac yn y blaen. Eironig meddwl fel mae'r pentre wedi newid. Yn ôl cyfrifiad 1891, roedd y rhanfwyaf o'r pentrefwyr yn uniaith Gymraeg, a'm hen hen dadcu, Thomas Hughes yn eu plith. Tybed sut oedd o'n delio â phrynwyr ym marchnadoedd dros y ffin felly, wrth iddo fynd ar ei daith fel porthmon ? Rhyw fath o "business English" fyddai ganddo mae'n siwr...

Cyfuniad od o'r hen a'r newydd yn Bont; cyfarfod a llawer un dwi'n cofio o 'mhlentyndod... a llawer o Saeson wedi symud mewn. Ar safle lladd-dy'r teulu mae tai newydd "we kept some of the stones from the old slaughterhouse for the garden wall" meddai dynes ifanc sydd ar fin priodi un o'm cefnaint. Cyfarfod â jogar tu allan i siop Tom Lloyd wedyn : “I'm going to marry a full-blooded Welshman”, meddai hi. Tybed fydd yr hogiau yn llwyddo i newid iaith yr aelwyd? Mae peryg y bydd y dosbarth derbyn mhen tair blynedd yn hollol Saesneg. Saesnesau yw pawb sy'n disgwyl ar hyn o bryd.

Ond wedi dweud hynny, roedd Cheryl yr hogan trin gwallt yn rhyfeddol o unfazed gan rywun yn siarad Cymraeg hefo hi. Petai mwy yn gwneud...

15fed o Fehefin 2005

picture from the programmeRhiannon o’r ganolfan Aur yn Nhregaron wedi cael papur banc y Ddafad Ddu ar ôl pymtheg mlynedd o chwilio. Roedd yr ‘Aberystwyth and Tregaron Bank’, a rhoi iddo ei enw swyddogol, mewn adeilad ar draws y sgwâr o'i siop hi, a'u papurau banc yn defnyddio lluniau o ddefaid i ddangos eu gwerth, dwy ddafad ar y papur dwy bunt, un ar y papur punt ac oen bach ar y papur decswllt. Papur dwy bunt oedd gan Rhiannon; roedd y peth wedi dod i'r fei mewn ffeil papurau rhyw dwrne o Gaerfyrddin.

Yng nghefn siop Rhiannon mae caffi Sara Bara (wedi ei enwi ar ôl hen gymeriad oedd yn pobi ar y safle). Hogan Gymraeg ei hiaith oedd yn gweini arnom a synnais gweld un o’r genod fu'n siarad Cymraeg yn rhugl â mi yn y siop yn siarad Saesneg â hi. "Am y tro cynta," meddai Rhiannon, "mae'n broblem cael ein staff ifanc i siarad Cymraeg a'i gilydd - ac mae'n cwsmeriaid yn hoffi clywed nhw'n gwneud hynny."

Yn nhafarn Tywi Bridge yn Rhandirmwyn, daeth y tafarnwr at y drws wrth imi basio gyda 'nafad ffug dan fy nghesail. Roedd yn gwisgo het cowboi ac yn dod o'r Fflint. Roedd ei ferch isio rhoi ô-bach i'r ddafad tra fod ei gi yn ymosod yn ffyrnig ar olwynion unrhyw gar oedd yn pasio.

>Cofio galw yno am beint neu ddau rhai blynyddoedd yn ôl, hefo criw o'r pentre nesa, Cilycwm. Ar ôl tipyn dyma sylweddoli nad oedd neb yn ddigon sobor i ddreifio:

- ‘Be wnawn ni felly? Ffonio am dacsi?’
- ‘Jiw jiw paid â poeni - dreifwn ni nôl.’
- ‘Ond be am yr heddlu?’
- ‘Ni'n switsio goleuade'n ceir ni bant - fel bo nhw'n ffili'n gweld ni!’

A dyna wnaed...

Doedd y cowboi ddim yn gwneud bwyd a chawsom ni ein gwrthod mewn dau le arall, am bod hi'n bum munud i ddau. "Be sy'n bod arnyn nhw 'te?" gofynnodd tafarnwraig gymwynasgar Cilycwm wrth gymryd ein harcheb, "pwy sens sy, mewn troi busnes bant?" Hollol, a diolch amdani.

16eg o Fehefin 2005

picture from the programmeMae iaith ardal Llanymddyfri yn newid a ‘da ni ddim yn sôn am gyfieithu.

O edrych yn ffenestri'r gwerthwyr tai gwelwn "cae" yn troi'n paddock, "sgubor" yn troi'n ‘suitable for conversion to holiday cottages’. Lle chwara yw'r wlad, nid lle gwaith a chynhaliaeth.

Ar y bws o Lanymddyfri i Aberhonddu. Tair cenhedlaeth yn teithio gyda'i gilydd, Mamgu, Mam a bychan o'r enw Bailey (tybed ai Baileys bychan oedd yn gyfrifol am ei genhedlu?!) yna siarad â Maureen a Keith; roedd ŵyr Maureen yn astudio Cymraeg meddai, yn yr ysgol yn Aberhonddu. Wedyn, dyn o Drecastell yn mynd i wylio'r rasus yn y bwcis yn Aberhonddu – “rhywbeth i roi diddordeb imi yn fy henaint” meddai fo.

Synnu at barodrwydd pobl i dderbyn mod i "ddim yn siarad Saesneg" (sydd yn gwneud llai o synnwyr o gofio bod hi'n lled amlwg mod i'n deall Saesneg). Yn fwy na hynny, mae ambell un hyd yn oed wedi troi at ffrind ynghanol sgwrs hefo fi a dweud "he doesn't understand English" a minnau'n ymateb bob tro i unrhyw beth sy'n cael ei ddweud yn Saesneg, er nad ydyn nhw efallai yn deall f'ymateb.

Synnu hefyd at barodrwydd pobl i dderbyn y ddafad. Yn Aberhonddu wrth holi dwy eneth ysgol am y ffordd orau i fynd i'r Fenni roedden nhw'n rhyfeddu mod i'n meddwl cerdded - ond heb wneud unrhyw sylw fod gennyf ddafad ffug dan fy nghesail.