26ain o Fedi 2005
Yn ystod y ffilmio ar gyfer y pedair rhaglen gynta, dwi di dod i deimlo mod i'n chwara yn y ffenast, chwara gerbron y camera, heb fynd i'r afael â'r agweddau mwy gelyniaethus sy'n ffrâm i'r ffenest, fel petai. Neu felly dwi'n tybio. Dwi di profi'r agweddau negyddol 'ma droeon cyn hyn, ond ddim yn ystod y ffilmio.
- ydw i ar ganol rhyw rediad hir o lwc anhygoel felly?
- neu ydi'r camera yn gwarantu ymddygiad da y sawl dwi'n stopio yn y stryd?
- neu ydi'r camera efallai yn rhoi hyder imi ymdrin â'r sefyllfaoedd hyn yn fwy effeithiol?
Dwi angen gwyliau. Ond dwi hefyd angen profi neu wrthbrofi hyn un ffordd neu'r llall. Ac felly ganwyd y syniad ar gyfer y pumed raglen.
Ces i gamera wedi'i guddio dan fotwm crys. Mae'n tueddu llithro a gorwedd ar dop fy mol gan bwyntio i fyny fymryn, yn lle gorwedd yn hollol fertigol; felly gan fy mod i'n weddol dal hefyd, y peryg ydi fod y sawl dwi'n trio eu ffilmio yn isel iawn yn y ffrâm, neu'n waeth fyth yn diflannu allan o waelod y llun! Mi ddôf i arfer gobeithio!
27ain o Fedi 2005
Dyma fi felly yn Llandudno, brenhines y trefi glan môr, chwedl nhwthau. Mae hitha'r cwîn yn aelod o'r Orsedd; pa mor Gymraeg ydi Llandudno?
Wrth ffilmio hefo'r camera cudd heddiw wnes i ddim dod ar draws llawer o siaradwyr Cymraeg (ond petawn i'n sefyll tu allan i ddrysau M & S ar bnawn Sadwrn, mae'n debyg baswn i'n gweld hanner Arfon a Dyffryn Conwy!) Wedi deud hynna, doedd neb yn anfodlon trio siarad hefo fi. A chan nad oedd camera mewn golwg, naill ai mae fy lwc yn parhau, neu falla fod agweddau wedi newid...
O'r cant sy'n gweithio yn y gwesty lle dwi'n aros, mae 6 ohonynt yn siarad Cymraeg mae'n debyg. Holais i Gwilym yn y dderbynfa: "Be sy'n denu pobl yma? "Y bae ac ati..."
Gan bod ni'n clywed mwy dyddia hyn am dwristiaeth ddiwylliannol, tybed faint o ddiddordeb sgen y fusutors yn yr iaith leol? "Maen nhw'n licio chlywad hi, ond sdim lot i'w glywad. Bydd lot yn holi am le gan nhw glywad canu Cymraeg - tafarn nos Sadwrn neu'r capel fore Sul. Mae gynnon ni rai drwodd rwan yn cael swpar cynnar er mwyn mynd i wrando ar Gôr Llanddulas heno; mae'r corau lleol yn rhoi cyngherddau drwy'r tymor, bob un yn ei dro."
Dwi ‘di llunio rhestr o bethau i'w gwneud tra mod i ar fy ngwyliau a hynny'n cynnwys trio'r bwyd lleol. Cofio'r stori am foi blin wedi bod yn bwrw ei gylchoedd mewn caffi yng Nghaerdydd a throi'r drol hefo'r staff gweini, cyn archebu hyd yn oed.
"I'd like to know if this is Welsh lamb"
"Why's that sba'? You wanna ave a conversation with it, is it?"
Es i Tiffanys i gael brecwast – wel, hefo enw fel'na, doedd 'na ddim dewis nagoedd?
28ain o Fedi 2005
Heddiw ês i am drip i Gonwy ac ymlaen i Fetws y Coed wedyn. Cofio mynd i Gonwy yn blentyn hefo Mam a 'mrawd i weld y castell a Phlas Mawr. Y cof penna sydd gen i am yr ymweliad yw'r milcshec ges i yn y National Milk Bar, oherwydd imi chwydu yn binc dros lawr y bws Crosville ar y ffordd adra.
Es i'r Tŷ Lleia a chyfarfod â'r tywysydd Gwyneth. Cymryd y pres yw ei phrif ddyletswydd - mae 'na dâp yn chwara sy'n dweud hanes y tŷ. Rhoiodd hi'r fersiwn Gymraeg ymlaen i mi; maen nhw'n gallu cynnig y sylwebaeth mewn rhyw bymtheg o ieithoedd, gan gynnwys Hebraeg. Siapanaeg a Sbaeneg yw'r tapiau y mae fwya o alw amdanynt ar ôl y Saesneg mae'n debyg.
Yn y castell, dyma ddynes yn gofyn imi "er du Norsk?" (wyt ti'n dod o Norwy?) Ddoe wrth holi am le byta, dyma foi arall yn dweud "byta? bitte? - ah! you're speaking German are you?"
Ym Metws y Coed y lle gora fues i oedd siop werthu sŵfenirs; kitsch os mynnwch chi, ond "petha o safon" fel ddudodd Glyn y perchennog. Ac mae'n gwybod be ‘di safon gan fod gynno fo gasgliad o hanner miliwn o lyfrau ail law am Gymru a detholiad go lew ohonynt yng nghefn y siop. Roedd ganddo greiriau eraill; dangosodd damaid o'r faner Brydeinig a dynnwyd lawr o dŵr castell Caernarfon nôl yn y tridegau, am fod yr awdurdodau yn gwrthod hedfan y ddraig goch gyda hi.
On i'n dotio at y cyfuniad anghyffredin ma o ddiwylliant "uchel ael" ac "isel ael", a hynny dan yr unto. Ac mae'r goncs a'r côstyrs a'r capiau Cymru lawn mor bwysig yn eu ffordd. Maen nhw'n cyhoeddi hunaniaeth.
"Ti di sylwi," meddai fi, "ar y fferi rhwng Caergybi a Iwerddon, mond kitsch Gwyddelig maen nhw'n ei werthu; leprechauns, pethau Guinness a ballu - ond llong sy'n hwylio rhwng Iwerddon a Chymru ydi hi. Pam fod ein kitsch ni ddim yn cael lle ar y silffoedd tybed?"
Prynais i het drag goch ganddo fo, beth bynnag...
29ain Medi 2005
Darllenais i fod Tywysoges Romania wedi aros yn y gwesty dros ffordd "am bump wythnos yn 1896 ar ôl iddi fethu trên". Beth ddiawl ddigwyddodd ta?! Digon o waith fod rhaid disgwyl gyhyd am y trên nesa! Neu oedd y sioc o golli trên mor drawmatig fel bod hi'n orweddiog wedyn? Mae na gyfrolau ynghudd yn y gosodiad syml yna!
Cyfarfues i heddiw â dwy ddynes glên o Awstralia:
- “O le dach chi'n dod yn Awstralia? O Sydney? O Melbourne?”
- “An old gold mining town called Walhalla. We're two and a half out of
Melbourne.”
- “It's a tiny place, population of 15.”
- “That's 13 at the moment coz we're here talking to you!”
On i'n licio'u hiwmor nhw. Am ryw reswm ces i f'atgoffa o sgwrs am Gymru gefais tra mod i yn yr UDA ac wedi dechra siarad hefo ffrind i ffrind mewn bar. Roedd yn drefnydd undeb; roedd yn gwybod am y mewnlifiad i Gymru; deud y gwir, roedd yn gwybod am lot o bethau. Roedd yn meddu ar ddogn helaeth o'r optimistiaeth sy'n nodweddu cymaint o Americanwyr, (yn enwedig y rhai sy'n trio gweithio fel trefnyddion undeb yn y wlad anaddawol honno) Yfon ni boteli stowt o Utica ac roedd na olau neon coch yn y ffenest nesa at ein wynebau. Siaradon ni am y gwahaniaeth rhwng mewnfudwyr a choloneiddwyr "Listen" meddai, "these guys are gonna fold - an then they gotta deal – yo’ livin here now muth*@?uc!a"
Cododd ei botel i'w wefusau. "Dare to struggle" Ac fe yfon ni i hynny.
Ac mi godaf inna fy ngwydr i Landudno, Conwy a Betws y Coed sydd i gyd wedi pasio prawf y camera cudd... Ond os oes modd i mi wneud Popeth yn Gymraeg mor ddi-drafferth â hyn, sut mae mynd â'r peth gam ymhellach?
Mae'n amser mynd adra.
Ysgwydais law â'r gyrrwr bws ar y daith adra o Landudno a dyma fo'n cyflwyno'i hun fel â ganlyn; "Pleased to meet you. I'm Larry Kewley. I'm an Elvis impersonator. I'm famous for being the world's worst Elvis impersonator."
Be fedrwn i ddweud? Diolch Larry...